Uned 1
Canllawiau
Nod Uned 1 yw archwilio'r canllawiau asesu a chynnydd fel yr amlinellir yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Porwch drwy'r trefniadau asesu a dyfnhewch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru drwy ymgymryd â'r tasgau 'myfyrio ac ymateb' sydd wedi eu hawgrymu.
Asesu a Chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru
Cod Cynnydd - Llywodraeth Cymru
Yr Athro Robin Banerjee sy'n esbonio 'cynnydd' mewn dysgu ac yn nodi sut mae'r cwricwlwm newydd yn wahanol i ddysgwyr ac athrawon yng Nghymru?
Cefnogi Cynnydd Dysgwyr:
Canllawiau Asesu
Mae modd cael mynediad i'r 'cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu' yma.
Nod y ddogfen ganllaw yw rhoi cyfeiriad i ymarferwyr wrth iddynt asesu cynnydd o fewn y continwwm dysgu 3 i 16.
Geirfa Allweddol ar gyfer Asesu a Chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru
Mae rhagor o wybodaeth am eirfa allweddol Asesu a Chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru ar gael yma:
Myfyrio ac Ymateb:
Ar y Jamboard atodol (cofiwch ei gopio) - crynhowch yr egwyddorion allweddol, egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu allweddol ar nodiadau post-it:
Asesu a Chynnydd - Beth sy'n Newid?
Tabl i ddangos rhai o'r newidiadau i asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru.
Beth sy'n Newid?
Pam yr ydym yn gwneud hyn?
Beth mae hyn yn ei olygu i'n hysgolion/lleoliadau?
Dyma ddogfen ddefnyddiol i'w rhannu â'r holl staff yn eich ysgolion a'ch lleoliadau, er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r newidiadau o fewn asesu a chynnydd fel yr amlinellir yn Nhrefniadau Asesu Cwricwlwm i Gymru.
Dyma gwestiynau cyffredin sy'n seiliedig ar asesu a chynnydd. Bydd y ddogfen hon yn cael ei ddiweddaru i gynnwys cwestiynau cyffredin gan leisiau ein hysgolion a'n lleoliadau.
Cliciwch ar y ddelwedd i lawrlwytho'r ddogfen.
Egwyddorion Cynnydd
Dylai cynnydd mewn dysgu bob amser fod wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn hytrach na dechrau gyda thema ac addasu'r dysgu i gydweddu â hi. Wrth ddewis cynnwys cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd i lywio eu dull gweithredu o ran cynnydd.
Tra bod disgrifiadau dysgu yn mynegi ffordd y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn dysgu o ran datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig, mae'r egwyddorion cynnydd yn mynegi'r egwyddorion ehangach o ran yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu yn y Maes yn ei gyfanrwydd.
Mae'r egwyddorion cynnydd yn ofyniad mandadol. Fel y cyfryw, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion hyn i lywio'r holl ddysgu i gefnogi cynnydd. Wrth ystyried disgrifiadau dysgu neu gyd-destun, testun neu brofiad penodol, mae'r egwyddorion cynnydd yn helpu ymarferwyr i ddeall sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn modd mwy soffistigedig neu ddwfn. Dylai ymarferwyr hefyd gydnabod y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd ar wahanol gyflymderau.
Mae Egwyddorion cynnydd pob Maes Dysgu a Phrofiad fel â ganlyn:
Egwyddorion Allweddol Asesu
Edrychwch ar y 6 egwyddor allweddol fel y dangosir ar y diagram a welwch (i'r chwith).
Myfyrio ac Ymateb:
Beth ydyn ni'n gwybod am yr egwyddorion allweddol hyn?
Beth mae'r egwyddorion hyn yn eu golygu i ni fel ysgol?
Byddwn yn pori'n ddyfnach i'r egwyddorion allweddol hyn yn Uned 2.
Diben Asesu
Mae asesu yn rhan hanfodol o gynllunio’r cwricwlwm a’i ddiben cyffredinol o fewn y cwricwlwm yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae’n rhan annatod o ddysgu ac addysgu ac mae’n gofyn am bartneriaethau effeithiol ymhlith pawb sy’n rhan o’r broses, gan gynnwys y dysgwr.
Mae gan asesu rôl sylfaenol i’w chwarae wrth sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol. Dylai gyfrannu at ddatblygu darlun cyfannol o’r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn llywio’r camau dysgu ac addysgu nesaf. Ni ddylai asesu gael ei ddefnyddio i lunio barn untro ar gyflawniad cyffredinol dysgwr ar oedran neu adeg benodol yn erbyn disgrifyddion na meini prawf ar sail ffit orau.
Ymateb a Myfyrio:
Myfyriwch ar y cwestiynau sydd ar y dde.
Daw'r cwestiynau hyn allan o'r 'Canllaw Cynllunio a Blaenoriaethau Cwricwlwm i Gymru' ac maent yn gyfle i fyfyrio ar ddatblygiad eich cwricwlwm hyd yn hyn.
Gallwch ddefnyddio'r cwestiynau hyn i ystyried eich cynnydd mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm, a'r hyn y gallech eu hystyried yn fanylach.
3 prif rôl asesu
Mae asesu yn chwarae tair prif ran yn y broses o alluogi cynnydd dysgwyr, sef:
cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
pennu cynnydd dysgwr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno
deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion
Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu, dylai ysgolion ac ymarferwyr fod yn glir ynghylch rôl benodol pob asesiad a gynhelir ac at ba ddiben y defnyddir y ddealltwriaeth a geir yn sgil yr asesiad, a pham.
Ymateb a Myfyrio:
Beth mae 'cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus, o ddydd i ddydd' yn ei olygu i'n hysgol?
Sut ydyn ni'n adnabod, dal a myfyrio ar gynnydd unigol dros amser? Pa mor effeithiol yw hyn?
Beth a wnawn ar hyn o bryd i ddeall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arfer?
Asesu a Chynnydd - Pwy sydd angen beth?
Beth sydd ei angen ar ddysgwyr?
Adborth amserol am eu cynnydd presennol ac arweiniad ar gyfer eu camau dysgu nesaf e.e. ar ffurf adborth dyddiol gan oedolion, cyfoedion, hunanasesu yn yr ystafell ddosbarth a hefyd o asesiadau cyfnodol.
Dathlu ac atgyfnerthu cyflawniadau a chymhelliant ar gyfer dysgu pellach.
Perchnogaeth o’r broses asesu a chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynllunio ar gyfer cynnyddpellach:
Asesu sy'n cefnogi egwyddorion cynnydd
Dealltwriaeth dda o sut maen nhw'n dysgu a sut maen nhw'n datblygu fel dysgwyr hyderus ac annibynnol.
Amgylchedd dysgu sy'n eu galluogi i asesu eu dysgu'n effeithiol, trafod camgymeriadau neu gamsyniadau yn hyderus a rhoi a derbyn adborth yn barchus.
Beth sydd ei angen ar ymarferwyr?
Gwybodaeth berthnasol, ymarferol a hygyrch y gellir ei defnyddio'n hyblyg i gynllunio ar gyfer dilyniant dysgwyr, yn ddyddiol yn yr ystafell ddosbarth ac o asesiadau cyfnodol.
Gwneud defnydd da o asesu ffurfiannol a sicrhau ymateb effeithiol i adborth.
Rhoi amser a'u hegni i addysgu, a chydnabod bod cymryd amser i siarad â dysgwyr a gwrando arnynt, yn asesiad gwerthfawr.
Gallu asesu'r dysgwr gan ddefnyddio data mwy ansoddol, gan fabwysiadu dull cyfannol o adolygu cynnydd a llywio'r camau nesaf. Dylid canolbwyntio ar les a metawybyddiaeth yn ogystal â chynnydd academaidd e.e ystyried gwaith dysgwyr, eu datblygiad fel dysgwr a chymryd mewnbwn gan rieni/staff cymorth /asiantaethau allanol.
Amser i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol effeithiol a rheolaidd ar gynnydd dysgwyr gyda chydweithwyr ac arweinwyr eraill yn yr ysgol a, phan fo'n berthnasol, rhwng ysgolion. Er enghraifft, ymgysylltu â chyfoedion, deialog broffesiynol, cyfarfodydd pontio.
Beth sydd ei angen ar arweinwyr ysgolion?
Prosesau syml ac effeithiol i nodi cynnydd dysgwyr er mwyn cael darlun clir o addysgu a dysgu. Yna dylai arweinwyr ddefnyddio'r wybodaeth yma i gynllunio’n strategol ac effeithiol ar gyfer yr ysgol a rhannu'r wybodaeth hon yn briodol gyda gwahanol randdeiliaid a chynulleidfaoedd.
Annog amgylchedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yn hytrach na chydymffurfio ac adrodd.
Sicrhau dysgu proffesiynol parhaus ac effeithiol i'r holl staff er mwyn datblygu arferion asesu ffurfiannol cryf.
Trafodaethau a gwybodaeth reolaidd a gwybodus am asesu a chynnydd dysgwyr rhwng arweinwyr canol ac uwch arweinwyr a llywodraethwyr, er mwyn cefnogi cynllunio strategol ar gyfer datblygiad ysgol.
Beth sydd ei angen ar rieni/gofalwyr?
Bod yn wybodus ac yn hyderus am gynnydd eu plentyn/plant ac i ddathlu eu llwyddiannau yn academaidd ac fel person ifanc.
Cymryd rhan mewn cyfathrebu amrywiol a rheolaidd gyda'r ysgol i rannu gwybodaeth am gynnydd eu plentyn/plant ac i wybod beth yw'r ffordd orau o gefnogi dysgu a chynnydd pellach.