Uned 5 - Llywodraeth Cymru

Adnoddau a deunyddiau cefnogi

Mae'r deunyddiau ategol hyn wedi'u cynhyrchu i gefnogi'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau. 

Maent yn adeiladu ar ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a’r canllawiau gwella ysgolion newydd, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer cynllunio cwricwlwm, sicrhau ansawdd, a hunanwerthuso. 

Cynllunio Cwricwlwm gyda Phwrpas

Mae’r deunydd hwn yn rhoi canllaw byr ynghylch ystyriaethau i gefnogi'r gwaith o gynllunio a sicrhau ansawdd cwricwlwm sy'n cael ei arwain gan bwrpas. Nid yw'n rhestr wirio ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm ond mae'n darparu awgrymiadau defnyddiol ynghylch ystyried taith eich cwricwlwm a'r hyn y gallech ei wneud nesaf. 

Dysgu â diben_ templed i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm.pdf
Diben, cynnydd ac asesu fel allwedd i gynllunio’r cwricwlwm.pdf

Egwyddorion Cynnydd - cefnogi'r broses hunanarfarnu a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Egwyddorion cynnydd – cefnogi hunanwerthuso a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.pdf

Mae'r deunydd hwn yn darparu awgrymiadau a chwestiynau i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion i ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd mandadol i gefnogi prosesau hunanarfarnu a gwella, ac i helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. 

Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Mae'r deunydd hwn yn nodi beth yw dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gydag awgrymiadau ymarferol ar sut i ddatblygu hyn yn eich ysgol neu leoliad eich hun. Mae hyn yn ategu'r canllawiau ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu. 

Dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.pdf

Asesu Cynnydd Dysgwr

Mae'r deunydd ategol hwn yn darparu gwybodaeth, awgrymiadau a chanllawiau ar ddatblygu trefniadau asesu yn y Cwricwlwm i Gymru. 

Asesu cynnydd dysgwyr.pdf

Hunanwerthuso a gwella: cynnydd dysgwyr

Hunanwerthuso a gwella.pdf

Mae'r canllawiau hyn yn darparu awgrymiadau i gefnogi gwerthuso cynnydd dysgwyr mewn trefniadau gwerthuso a gwella ysgolion. Mae hyn yn ategu'r canllawiau anstatudol ar wella ysgolion ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’ a'r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella. 

CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol

Mae CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol yn becyn sy'n cynnwys llawlyfr, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol am sut i ddefnyddio’r adnodd, a chwe sesiwn gweithdy i chi eu cynnal. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn i'w ddefnyddio gan ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau i ddatblygu'ch gallu a'ch sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesu wrth i chi fynd ati i ymgysylltu â 'chanllawiau Cwricwlwm i Gymru' .

CAMAU CSC.pdf

Astudiaethau Achos