Bwriad Uned 3 yw adeiladu ar Uned 1 a 2, wrth i ni ystyried sut mae modd gweithredu'r 3 prif rôl asesu o fewn ysgol/lleoliad.
Cofiwch: Mae gan asesu dair prif rôl yn y broses o alluogi cynnydd dysgwyr:
cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
adnabod, dal a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser
deall cynnydd grŵp er mwyn adfyfyrio ar ymarfer
Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu, dylai ysgolion ac ymarferwyr fod yn glir o beth yw rôl benodol pob asesiad sy'n cael ei weithredu, y ddealltwriaeth a gafwyd o'r asesiad, a sut fydd yr asesiad yn cael ei ddefnyddio - a pham?
Nod yr adran hon yw cynnig syniadau i ysgolion ar sut i ddatblygu tair prif rôl asesu.
Sylwer: awgrymiadau yn unig yw'r syniadau isod, ac maent yn dangos enghreifftiau o sut mae rhai ysgolion yn mynd i'r afael ag asesu a chynnydd.
Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
Dylai asesu ganolbwyntio ar adnabod cryfderau, cyflawniadau, meysydd gwella ar gyfer pob dysgwr unigol a, lle bo hynny'n berthnasol, rhwystrau i ddysgu. Dylai'r ddealltwriaeth hon gael ei defnyddio gan yr ymarferydd mewn trafodaeth â'r dysgwr, i ganfod y camau nesaf sydd eu hangen i symud y dysgu ymlaen, gan gynnwys unrhyw her a chefnogaeth ychwanegol sydd angen. Dylid cyflawni hyn drwy wreiddio asesu fel rhan o'r arfer dydd i ddydd mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y dysgwr. Mae hyn yn caniatáu'r ymarferydd i ymateb i anghenion unigol yr ystod lawn o ddysgwyr o fewn yr ystafell ddosbarth yn barhaus.
Asesu ac Adborth -
Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud?
Adborth mewn Llyfrau - Enghraifft
Polisi Adborth a Myfyrio - Enghraifft
Dylan Williams - Beth mae Asesu ar gyfer Dysgu yn ei olygu?
Lles ac asesu dysgwyr: systemau cefnogi cydfuddiannol
Mae'r ddogfen hon yn edrych ar y berthynas rhwng asesu a lles dysgwr. Mae'n archwilio sut mae defnyddio asesu'n barhaus, o ddydd i ddydd i adnabod, dal a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol yn rhoi cyfleoedd i hyrwyddo llesiant dysgwyr. Mae'n cynnig cwestiynau procio er mwyn i ymarferwyr fyfyrio ac ystyried eu harferion presennol a sut y gellid eu datblygu ymhellach/gwella.
Mike Gershon - Asesu ar gyfer Dysgu
Adnoddau Mike Gershon ar Asesu ar gyfer Dysgu am ddim yma
Dylai asesu gefnogi ymarferwyr i nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan ddysgwr unigol, a chofnodi hyn, lle bo hynny'n briodol, i ddeall taith y dysgwr dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiol ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o sut mae dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â'r hyn mae wedi ei ddysgu ac yn gallu ei ddangos. Bydd myfyrio ar gynnydd dysgwr dros amser yn galluogi ymarferwyr i roi adborth a helpu i gynllunio eu dysgu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyrraeth, cefnogaeth ychwanegol neu her y gall fod eu hangen. Dylai hyn gynnwys y camau dilynol nesaf a'r amcanion hirdymor y dylai'r dysgwr weithio tuag atynt i'w helpu i symud ymlaen yn eu dysgu. Mae modd ei defnyddio hefyd fel sail i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
Lyn Sharratt - Adeiladu capasiti:
Waliau data a Chyfarfodydd Rheoli Achos
Mae rhagor o dempledi a gwybodaeth am Waliau Data a Chyfarfodydd Rheoli Achosion ar gael yma.
Waliau Data
Codi cwestiynau ynghylch pam, sut neu beth y gellir ei wneud i gefnogi cynnydd dysgwyr
Cefnogi ysgolion i ddeall tueddiadau a mynd dan groen unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg ymysg grŵp penodol o ddysgwyr / adrannau / ysgolion
Canolbwyntio ar sgyrsiau am addasu’r ddarpariaeth/addysgeg i fodloni anghenion dysgwyr
Ysgol Uwchradd Llanidloes yn sôn am Waliau Data a Chyfarfodydd Rheoli Achosion gyda Lyn Sharratt
Asesiadau Personol
Ciciwch yma am fwy o wybodaeth
Defnyddio asesiadau wedi'u personoli mewn Darllen, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu): gweminarau i athrawon.
Gweminarau i athrawon ar ddefnyddio'r system Asesiadau Personol a'r adroddiadau y mae'n eu cynhyrchu i gefnogi addysgu, dysgu a chynllunio cynnydd mewn darllen a rhifedd.
Mae recordiadau gweminarau i'w gweld yma.
Asesiadau personol: dealltwriaeth o ddefnyddio adborth dysgwyr ac adroddiadau grŵp.
Mae fideo i'w weld yma.