30.4.2021

Dydd Gwener / Friday - 30.4.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/4-5-21-7-5-21


Thema / Topic:

Parciau Cenedlaethol / National Parks


Mae Parciau Cenedlaethol yn diroedd sy'n cael eu gwarchod gan Awdurdodau'r Parciau. Maent yn ardaloedd o dir sy'n cael eu hystyried i fod yn brydferth iawn. Mae 15 Parc Cenedlaethol yn y DU. Mae tri o'r rhain yng Nghymru. Mae'r bywyd gwyllt a'r planhigion sydd yn y parciau hyn yn cael eu gwarchod oherwydd bod rhai ohonynt yn brin iawn neu dan fygythiad o ddiflannu’n llwyr. Mae'r trefi, y pentrefi a'r safleoedd hanesyddol yn y Parciau Cenedlaethol hefyd wedi'u gwarchod.

National Parks are lands protected by the Park Authorities. They are areas of land that are considered to be very beautiful. There are 15 National Parks in the UK. Three of these are in Wales. The wildlife and plants in these parks are protected because some are very rare or threatened with extinction. The towns, villages and historic sites in the National Parks are also protected.

Tasg 1/ Task 1:

Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo. Ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau isod?

Click on the link to watch the video. Can you answer the questions below?

Cwestiynau/ Questions:

  1. Oes mynyddoedd yn y Bannau? Are there mountains in the Beacons?

  2. Oes afonydd yn y Bannau? Are there rivers in the Beacons?

  3. Oes Cestyll yn y Bannau? Are there Castles in the Beacons?

  4. Wrth wylio'r fideo ydy Bannau Brycheiniog yn edrych yn brydferth neu ddim? While watching the video, do the Brecon Beacons look beautiful or not?

  5. Oes rhaeadrau yn y Bannau? Are there waterfalls in the Beacons?

  6. Pa anifeiliaid ydych chi'n meddwl sydd yn byw yn y Bannau? Which animals do you think live in the Beacons?

Tasg 2/ Task 2:

Gweler enwau mynyddoedd a bryniau Bannau Brycheiniog isod. Mae'r llythrennau wedi eu cymysgu. Ydych chi'n gallu ysgrifennu enwau'r mynyddoedd a'r bryniau yn gywir?

Below are the names of mountains and hills in the Brecon Beacons. The letters have been mixed up. Can you write the correct names?


P n e y a F n

D u C r o n

C i r y b n

B g i y F n a

F n a F w a r

P c w i s D u


Atebion/ Answers:

Pen y Fan

Corn Du

Cribyn

Fan y Big

Fan Fawr

Picws Du

Celf / Art:

Mae'r tywydd wedi newid ac rydym yn dechrau croesawu'r haf. Eich gwaith yr wythnos hon yw mynd am dro a sylwi ar y newidiadau o'ch cwmpas. Ydych chi'n gallu casglu pethau naturiol e.e. blodau, dail gwahanol liw, brigau ayyb er mwyn creu llun/ collage natur? Gallwch greu beth bynnag yr hoffech, felly byddwch yn greadigol. Gweler syniadau isod:

The weather has turned a bit warmer and we are beginning to welcome the summer. Your task this week is to go on a walk and observe all the changes around us. Can you collect some natural items such as flowers, different coloured leaves, sticks etc and make a nature related picture or a collage? You are welcome to make anything you like, and be as creative as you wish. Here are some ideas:

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Gan ein bod yn canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol Cymru a'r awyr agored yr wythnos hon, eich tasg yw mynd am dro a defnyddio eich synhwyrau. Mae'r clip yn siarad am synhwyrau a thechnegau ar gyfer taith gerdded.


Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo.

As we are concentrating on Wales' National Parks and the outdoors this week your task is to go for a walk and use your senses in your surroundings. The clip speaks about the senses and techniques you can use during a walk.

Click on the link to watch the video.

Gwaith Cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:

Sillafu enfys / Rainbow Spelling:

Ysgrifennwch yr ansoddeiriau isod gan ddefnyddio pensiliau lliw neu binnau ffelt. Gallwch ysgrifennu pob llythyren gan ddefnyddio lliw gwahanol neu ddefnyddio mwy nag un pensil lliw / pin ffelt ar yr un pryd. Gweler yr enghreifftiau am syniadau.

Write the adjectives below using colouring pencils or felt tip pens. You can write each letter using a different colour or use several pencils / pens at the same time. See the examples for ideas.


  • cyflym (fast)

  • tenau (thin)

  • cryf (strong)

  • enfawr (enormous)

  • caled (hard)

  • swnllyd (noisy)

  • gwych (great)

Mathemateg / Mathematics:

Tynnu / Subtraction:

Atebwch y symiau tynnu isod drwy dynnu'r degau yn gyntaf ac yna'r unedau. Gweler yr enghraifft i'ch atgoffa sut mae gwneud hyn. Dewiswch set a, b neu c.

Answer the subtraction sums below by first subtracting the tens and then the units. See the example to remind you how to do this. Choose set a, b or c.

Darllen / Reading:

Llythrennau dwbl / Double letters:

Darllenwch y tudalennau hyn o'r stori Anghenfil o jôc. Yna, copïwch y tabl yn ei llyfrau a'i lenwi gyda geiriau o'r stori sy'n cynnwys y llythrennau dwbl.

Read these pages from the 'Anghenfil o jôc' story. Then, copy the table into your books, filling it with words from the story that contain the double letters.

Stori