09.07.21

Dydd Gwener / Friday 09.07.21

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch i edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/5-7-21-9-7-21

Thema / Theme:

Tasg 1 / Task 1:

Ble mae Cwmbrân?

Where is Cwmbran?

Ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau yma am Gwmbrân wrth edrych ar y map?

Can you answer these questions about Cwmbran by looking at the map?

  1. Ym mha sir mae Cwmbrân? / In which county is Cwmbran?

  2. Pa dref sydd i'r gogledd o Gwmbrân? / Which town is north of Cwmbran?

  3. Pa ddinas sydd i'r de o Gwmbrân? / Which city is south of Cwmbran?

  4. Pa drefi eraill sydd yn yr un sir â Chwmbrân? / Which other towns are in the same county as Cwmbran?

Defnyddiwch y cwmpawd yma i'ch helpu. /Use this compass to help you.


Tasg 2 / Task 2:

Ein cymuned / Our community:

Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei weld a'i ddefnyddio bob dydd o gwmpas eich ardal leol - Cwmbrân. Llenwch y daflen isod am eich cymuned.

Think about what you see and use in and around your local area daily. Fill in the worksheet below about your local community.

Celf / Art:

Mae Hannah wedi creu tirweddau hardd a ysbrydolwyd gan ardal Cwmbrân ar gyfer y tu fewn i ysbyty newydd Y Faenor. Ymwelodd Hannah â'r ardal i gael teimlad o'r dref a theithiodd mewn car ac ar droed i dynnu lluniau a braslunio. Dyma'r lluniau ddyluniodd Hannah o Gwmbrân ar waliau Ysbyty'r Faenor.

Hannah has created beautiful landscapes inspired by the Cwmbran area for the interior of its new hospital. Hannah visited the area to get a feel for the town and travelled by car and foot taking pictures and sketching. Here are some of Hannah's sketches of Cwmbran on the walls of the Grange hospital.

Ydych chi'n gallu creu tirwedd eich hunain gan ddefnyddio papur a phensil yn unig? Efallai y gallwch gynnwys rhai o'ch hoff lefydd yng Ngwmbrân?

Can you create your own landscape using only paper and a pencil? Perhaps you could include some of your favourite places in Cwmbran?

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Sialens gorfforol : Sawl un o'r sialensiau yma ydych chi'n gallu eu cwblhau? Byddwch yn greadigol wrth gwblhau'r sialensiau. Tynnwch luniau/anfonwch fideo o'ch hunain yn cwblhau rhai o'r sialensiau.

Physical challenges: How many of these challenges can you complete? Be creative in the way that you complete the challenges. Take pictures or send a video of yourself completing some of the challenges.

  1. 50 naid / 50 jumps

  2. 1 munud o gadw cydbwysedd / keep your balance for 1 minute

  3. 20 x keepie uppie

  4. 30 x ymwthiad / 30 x press-up

  5. Ras rwystrau wedi'i hamseru / Timed obstacle race

Gwaith Cartref / Homework:

Rhifedd / Numeracy:

Defnyddiwch y wefan yma i ymarfer eich tablau lluosi. Yna atebwch y cwestiynau isod. Dewiswch A,B NEU C.

Use this website to practise your multiplication tables and then answer the questions below. Choose A, B or C .

A B C

  1. 2 x 4 = 1. 2x 3= 1. 2 x 6=

  2. 5 x 5 = 2. 5 x4 = 2. 5 x 7=

  3. 6 x 2 = 3. 6 x 2 = 3. 6 x 8=

  4. 9 x 10= 4. 9 x 3= 4. 9 x4=

  5. 7 x 2 = 5. 7 x 4 = 5. 7 x 9=

Darllen / Reading:

Darllenwch y darn isod ac atebwch y cwestiynau. / Read the text below and answer the questions.


Yr Hen Gastell

Roedd dosbarth Cai yn mynd ar drip ysgol i hen, hen gastell.

“Hwre!” gwaeddodd Cai, “Rydw i wrth fy modd yn dysgu am filwyr a brwydrau, mae gen i gastell lego adref!”

Ar ddiwrnod y trip, Cai oedd y cyntaf ar y bws. Eisteddodd yn y sêt flaen. Ar ôl cyrraedd, rhuthrodd Cai i fyny’r grisiau carreg. Roedd y castell yn dywyll iawn. Teimlodd Cai rhywbeth blewog yn rhwbio yn erbyn ei goesau.

“WA!” bloeddiodd a rhuthrodd allan o’r castell ac yn ôl ar y bws.


  1. I ble’r oedd dosbarth Cai yn mynd ar eu trip?

  2. Pam fod Cai wrth ei fodd?

  3. Beth oedd gan Cai adref?

  4. Oedd Cai yn fachgen dewr?

  5. Beth wnaeth ddychryn Cai tybed?

Sillafu / Spelling:

Darganfyddwch y geiriau sy'n gysylltiedig â'r Haf yn y chwilair.

Find the words associated with Summer in the word search.

Mwynhewch y penwythnos!