23.4.2021

Dydd Gwener / Friday - 23.4.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/26-4-21-30-4-21

Thema / Topic:

Cestyll yng Nghymru / Castles in Wales

Wrth edrych ar y map isod, fe welwch bod yna nifer o gestyll yng Nghymru. Cymru yw un o'r gwledydd sydd â'r mwyaf o gestyll yn y byd.


As you look at the map below, you will see that Wales has many castles. Wales is one of the countries with the most castles in the world.

Tasg 1/ Task 1:

Ydych chi wedi gweld un o gestyll Cymru? Os ydych, trafodwch gydag oedolyn - pa gastell ac ym mhle?


Have you seen one of Wales' castles? If so, discuss with an adult - which castle and where?

Tasg 2/ Task 2:

Edrychwch ar y lluniau isod. Ydych chi'n gallu gosod y cestyll yn yr ardal gywir ar fap o Gymru?

Look at the pictures below. Can you place the castles in the correct area on a map of Wales?

Castell Coch

Castell Cas-gwent

Castell Caernarfon

Castell Caerdydd

Castell Bronllys

Castell Conwy

Castell Harlech

Celf / Art:

Yr wythnos hon rydym yn edrych ar gestyll Cymru. Dewiswch gastell ac yna ewch ati i greu, paentio neu dynnu llun ohono. Edrychwch isod am syniadau.


This week we are looking at Castles in Wales. Choose a castle and create, paint or draw a picture of it. Please see the pictures below for ideas.

Addysg Gorfforol/ Physical Education:



Cliciwch ar y linc ar gyfer sesiwn Ymarfer Corff.

Click on the link for a workout.

Gwaith Cartref / Homework:

Darllen / Reading:

Darllenwch y testun, yna lliwiwch yr hufen ia yn y lliwiau cywir.

Read the extract and colour the ice creams in the correct colours.

  1. Mae'r ail hufen iâ'n goch a glas. Mae siocled ynddo.

  2. Mae gan y trydydd hufen iâ gorned melyn â siocled ynddo.

  3. Mae'r hufen iâ cyntaf yn goch a melyn ac mae losin ar ei ben.

  4. Mae'r hufen iâ olaf yn las a brown ac mae losin ar ei ben.

  5. Mae'r hufen iâ cyntaf mewn corned melyn a gwyrdd.


corned = cornet

Sillafu / Spelling:

#Sgribliadsillafu.

Yn eich llyfrau gwaith cartref, gwnewch amlinelliad...

coesau, dwylo, llygaid a braich.

Llenwch y lluniau trwy ysgrifennu'r gair cywir ym mhob un, nifer o weithiau, er mwyn dysgu sut i'w sillafu.

#Spellamoodle

In your homework book, draw an outline of...

a leg, hand, eye and arm.

Fill each picture with the correct word as many times as you can in order to learn how to spell them.



Mathemateg / Mathematics

Talgrynnwch rhain i'r 10 a 100 agosaf:

Round these off to the nearest 10 and 100: