Gweledigaeth Ysgol Y Moelwyn
"Cydweithiwn....
i baratoi pobl ifanc o fro’r llechi, o’r mynyddoedd i’r llynnoedd i fod yn unigolion cyfrifol, parchus a gweithgar.
i ddatblygu unigolion i fod yn ddysgwyr mentrus, annibynnol ac uchelgeisiol gydol eu hoes. Mewn awyrgylch sy’n meithrin ac annog, darparwn addysg o’r radd flaenaf ble mae pob llwyddiant yn cael ei adnabod a’i ddathlu.
i fagu balchder yn ein cymuned a’n hunaniaeth trwy ddatblygu dinasyddion hyderus ac egwyddorol sy’n barod i gyfrannu a llwyddo o fewn dalgylch Ffestiniog a thu hwnt."
Proses creu ein Gweledigaeth
Cafodd gweledigaeth ein hysgol ei greu trwy ymgynghori â rhanddeiliaid gan gynnwys staff, ein dysgwyr a'n darpar ddysgwyr, rhieni ein dysgwyr, a'n llywodraethwyr. Gwnaethpwyd hyn trwy gynnal fforymau gyda dysgywr, holiaduron ar gyfer rhieni, a thrafodaethau gyda llywodraethwyr. Cynhaliodd yr ysgol grwpiau proffesiynol gyda holl staff yr ysgol er mwyn creu fersiwn drafft a oedd yn mewngorffori syniadau dysgwyr a rhieni. Drwy gyfarfodydd pellach â staff a llywodraethwyr cafodd fersiwn terfynol ei greu. Lansiwyd gweledigaeth ein hysgol ym mis Medi 2022 ac mae'n sail i bopeth rydym ni'n ei wneud yn yr ysgol.
Mewnbwn Rhieni
Y rhinweddau hoffai rhieni fod yn nodweddiadol o ddysgwyr yr ysgol
Y profiadau hoffai rhieni fod dysgwyr yr ysgol yn eu cael