Defnyddiwyd prosesau arferol yr ysgol i ddod i farn am natur a chyd-destun yr ysgol fel sail i adnabod cwricwlwm addas. Defnyddiwyd y trefniadau isod i ymgysylltu’n effeithiol hefo prif rhanddeiliaid, sef â dysgwyr, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr, y gymuned broffesiynol a`r gymuned ehangach:
Fforwm disgyblion.
Holiadur disgyblion.
Fforwm rhieni a holiadur rhieni.
Trafodaethau corff llywodraethol.
Holiadur ysgolion iach cenedlaethol.
Trefniadau craffu ar waith ac effaith addysgeg ar safonau dysgwyr.
Trefniadau myfyrio ar ddysgu gan gynnwys arsylwadau gwersi, teithiau dysgu ac effaith addysgeg ar safonau dysgwyr.
Adborth Gwe a sylwadau cyn benaethiaid.
Mae trefniadau arfarnu`r ysgol wedi eu haddasu ers cyfnod o ddwy flynedd gan ddefnyddio `r pedwar diben fel prif sail. Bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan ddefnyddio`r prosesau uchod fel sail gadarn ar gyfer adnabod diwygiadau angenrheidiol. Effaith y ddarpariaeth ar ddysgu a chynnydd sydd yn mesur y llwyddiant.
Mae syniadaeth megis ysgolion sy’n annog, meddylfryd twf, Shirley Clarke, Tom Sherrington, Barrack Rosenshine a chydweithio hefo`r sector gynradd wedi dylanwadu’n arwyddocaol ar ein llwybr fel ysgol fel sefydliad sy`n dysgu yn ystod ein llwybr ar y daith i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru.
Gweler ddogfen sy'n amlinellu Cwricwlwm Ysgol Y Moelwyn isod: