Pedwar Diben Y Cwricwlwm

Pedwar Diben Cwricwlwm i Gymru ydy craidd a chalon Cwricwlwm Ysgol Y Moelwyn. Dyma sail i bob agwedd o'n dylunio cwricwlwm, ein cynllunio a’n addysgu. Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd fel ysgol yn cefnogi’r 4 diben.

Mae ein Cwricwlwm yn addas ar gyfer ein holl ddysgwyr a bydd y profiadau dysgu rydym yn eu darparu a’n dulliau addysgu yn anelu at wireddu’r isod bob amser.