Asesu, Cynnydd ac adrodd i rieni

Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau fod ein cwricwlwm yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu gan alluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir yn y pedwar diben trwy:

  • ddarparu ar gyfer cynnydd priodol gan sicrhau fod y cwricwlwm gyd-fynd â’r egwyddorion cynnydd a nodir yn y ‘Cod Cynnydd’.

  • bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau

  • bod yn eang ac yn gytbwys

  • gofio pwysigrwydd cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant, cynnydd ac asesu.

Asesu a Chynnydd

Mae asesu yn cyfrannu mewn tri dull at y broses o alluogi cynnydd dysgwyr:

Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd.

Pennu cynnydd dysgwr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno.

Deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion.

Yn ôl y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu 2021 mae’n rhaid i’r Cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r Cod Cynnydd fod yn sail i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu ym mhob ysgol. Rydym yn defnyddio’r Disgrifiadau Dysgu ar gyfer bob Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig ar gyfer asesu a chynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr. Mae’r rhain yn cyfateb yn fras i ddisgwyliadau ar gyfer oedrannau 11, 14 a 16 ac yn cynnig arweiniad ar sut y dylai ein dysgwyr ddangos cynnydd o fewn pob Datganiad. Ni ddefnyddir rhain fel rhestr o flychau i’w ticio, ond fel ystyriaethau i’w hystyried wrth gynllunio ar gyfer cynnydd ein dysgwyr.

Bydd yr ysgol yn cyflawni Dibenion Asesu‘r Cwricwlwm fel a ganlyn:

  • Rydym fel ysgol wedi buddsoddi`n drwm ers blynyddoedd ym meysydd asesu ar gyfer dysgu ac asesu ffurfiannol ac mae rhain bellach wedi gwreiddio`n gadarn. Mae asesu ffurfiannol o ansawdd cyson uchel ar lawr dosbarth o ddydd i ddydd yn rhoi darlun clir o gyrhaeddiad a chamau nesaf i ddysgwyr ac ymarferwyr. Byddwn yn parhau i sicrhau fod yr asesu hwn yn llywio cyflymder a chyfeiriad y dysgu yn effeithiol.

  • Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd. Mae’r ysgol wedi gwneud gwaith sylweddol i sicrhau fod adborth ysgrifenedig a llafar yn adeiladol a phenodol a bob yr arweiniad dilynol ar sut i wella yn glir ac yn ddefnyddiol i`r dysgwr. Ceir polisi ac arweiniad ffurfiol a gweithredol asesu ar gyfer dysgu.

  • Rhown bwyslais ar bwysigrwydd sicrhau cyd-ddealltwriaeth o gynnydd ar draws ymarferwyr yr ysgol ac ar drafodaethau rheolaidd gyda rhieni a gofalwyr i drafod cynnydd eu plant.

Cyflwyniad Llywodraeth Cymru ar Asesu yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru

Adrodd i rieni

Cynhaliwyd holiadur a fforwm cynhwysfawr ar gyfer rhieni am asesu yn ystod haf 2022 ac mae’r adborth defnyddiol hwnnw wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth addasu trefniadau adrodd i rieni. Mae crynodeb o'r ymatebio i'w gael isod.


Rydym yn parhau i fireinio trefniadau i adrodd i rieni yn effeithiol gan gynnwys camau cynnydd, sgiliau trawsgwricwlaidd, themâu trawsbynciol a sgiliau cyfannol.

Ymatebion Holiadur Cymraeg
Ymatebion Holiadur Saesneg