Mae gofyn i holl arweinwyr ac athrawon yr ysgol sicrhau fod rhaglen waith blwyddyn 7 yn diwallu gofynion Cwriclwm i Gymru. Er mwyn gwneud hyn, mae'r ysgol wedi creu taflen gynllunio ar gyfer athrawon yr ysgol. Er mwyn sicrhau fod pawb yn hapus gyda'r daflen hon, aeth trwy broses ymgynghoriad gyda holl staff yr ysgol cyn creu'r fersiwn derfynol. Mae arweinwyr ac athrawon holl Feysydd Dysgu a Phrofiad yr ysgol yn defnyddio'r daflen hon bellach er mwyn sicrhau fod ein rhaglenni gwaith yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau dysgu eang a chyfoethog.