Wrth gynllunio yn Ysgol Y Moelwyn, rhoddir pwyslais ar gynnig profiadau dysgu cyfoethog, eang a dwfn o ansawdd uchel i’n dysgwyr sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u datblygiad. Golyga hyn roi digon o amser i ddysgwyr feithrin, ymarfer a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau er mwyn gwreiddio eu dysgu a pheidio â brysio drwy waith er mwyn ‘cyflawni cynnwys’. Mae hyn yn gosod seiliau cadarn ar gyfer camau nesaf eu dysgu ac yn golygu eu bod adeiladu ar eu dysgu a’u cynnydd drwy gydol eu hamser yma.
Rydym hefyd yn cynllunio i sicrhau bod ein profiadau dysgu a’n haddysgu yn datblygu’r sgiliau cyfannol isod sydd eu hangen ar ein dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben