Themau Trawsgwricwlaidd

Yn Ysgol Y Moelwyn, rydym ni'n manteisio ar gyfleoedd naturiol sy'n codi er mwyn plethu elfennau trawsgwricwlaidd mewn i'n rhaglenni gwaith. Mae hyn yn cynnwys meithrin dealltwriaeth o addysg cydberthynas a rhywioldeb, addysg hawliau dynol ac amrywiaeth, ac addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Bydd hyn yn cael ei wneud wrth ystyried cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ble yn briodol.

Sicrheir fod rhain yn cael eu cyflwyno`n gydlynus trwy gadarnhau cyfrifoldebau hyrwyddo a chydlynu penodol.