Gwerthuso

Gan ein bod yn cyflwyno ein Cwricwlwm am y tro cyntaf yn mis Medi 2022, bydd yn hynod o bwysig i ni gymryd cam yn ôl yn gyson ac ystyried os yw beth rydym ni wedi ei gyflwyno yn diwallu holl ofynion Cwricwlwm i Gymru ac anghenion ein dysgwyr.

Er mwyn gwneud hyn, mae gwahanol weithgareddau yn digwydd trwy'r flwyddyn. Bydd ein prosesau sicrhau ansawdd, megis aryslwi llyfrau ein dysgwyr, teithiau dysgu, arsylwi gwersi a fforymau dysgwyr yn ein helpu i ddod i farn am addasrwydd a safon ein Cwricwlwm.

Mae sgyrsiau proffesiynol rhwng aelodau staff yn digwydd yn gyson. Mae hyn yn gyfle da i drafod beth sy'n gweithio yn dda, ac os oes angen rhoi sylw i elfennau penodol o'r Cwricwlwm.