Mae Ysgol Y Moelwyn yn sefydliad sy’n dysgu. Golyga hyn ein bod yn ymchwilio ac yn dysgu am addysgu effeithiol yn barhaus ac yn rhoi bri ar ddysgu proffesiynol ac ymarfer wedi ei selio ar ymchwil er mwyn datblygu a gwella ein sgiliau addysgu. Dyma ein ffordd ni ymlaen.
Mae addysgu ardderchog yn hanfodol os ydym am wireddu’r 4 diben, ein gweledigaeth fel ysgol a gofynion Cwricwlwm i Gymru. Mae sicrhau amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf yn greiddiol i’r ysgol, i ddysgwyr ac i ymarferwyr. Mae cysondeb gweithredu ymhob dosbarth ar draws yr ysgol yn hollbwysig i ni er mwyn sicrhau amgylchfyd diogel a symbylus i’n dysgwyr allu mentro, gwneud camgymeriadau’n hyderus a dysgu mewn awyrgylch o gyd barch a gwerthfawrogiad o ymdrechion pawb. Rydym yn ystyried, yn rhannu ac yn datblygu ein dulliau addysgu’n barhaus, a hynny’n seiliedig ar ein dealltwriaeth o’r 12 egwyddor addysgegol a nodir yng Nghwricwlwm i Gymru ac ar y dulliau yr ydym ni’n eu canfod yn llwyddiannus yn yr ysgol hon.
Mae rhaglen dysgu proffesiynol ac ymchwiliol yr ysgol wedi cynyddu hyder a sgiliau addysgegol staff ers rhai blynyddoedd bellach. Mae ein prosesau rheoli ansawdd addysgu a dysgu yn ein helpu i adnabod cryfderau a gwendidau ymarfer athrawon ar draws yr ysgol fel ein bod ni'n gallu darparu hyfforddiant a sesiynau datblgyiad proffesiynol i'n athrawon.
Yn ogystal â hyn, mae gofyn i athrawon adnabod elfen o'u ymarfer eu hunain maent eisiau gwella yn ystod y flwyddyn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen ymgymryd â gwaith ymchwil, sydd yn ddiweddar wedi bod seiliedig ar waith ymchwil Principles of Instruction gan Barak Rosenshine. Mae'r egwyddorion yn y darn hwn o lenyddiaeth yn cwmpasu 12 Egwyddor Addysgeg Cwricwlwm i Gymru (gweler mwy isod). Byddwn yn parhau i adnabod meysydd i'w gwella dros y blynyddoedd nesaf a gweithredu ble mae angen er mwyn gwella arfer a chodi hyder ein athrawon.