Mae cynllun yr ysgolion creadigol arweiniol yn rhoi cyfle i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chymorth asiantau ac ymarferwyr creadigol
Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd athrawon a disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae asiant creadigol yn cael ei baru ag ysgol a fydd yn gweithio gydag uwch arweinwyr ac athrawon i nodi amcanion yn y cynllun datblygu ysgol a allai elwa o ddull dysgu creadigol. Gallai prosiectau archwilio sut mae datblygu rhifedd gan ddefnyddio cerflunio neu sut mae defnyddio ffilm i ddatblygu llythrennedd.
Mae ysgolion yn gwneud cais i ymuno â'r cynllun am ddwy flwyddyn academaidd a chael grant o £10,000. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y cynllun a bod ganddynt gynllun clir ar gyfer y cam nesaf.
Bydd y grant yn talu am eich gwaith prosiect dros bob blwyddyn academaidd rydych yn rhan o’r cynllun. Bydd disgwyl ichi wneud cyfraniad ysgol o 25% o’r grant. Gallwch dalu hyn drwy arian o'ch cyllideb ysgol a/neu grantiau eraill a gall gynnwys cost amser eich Cydlynydd Ysgol (hyd at 10 diwrnod) sy'n gweithio i gefnogi eich gwaith ymgysylltu fel ysgol greadigol arweiniol.