Fel rhan o weledigaeth yr ysgol ein dyhead ydi symud i fod yn Ysgol cyfrwng Cymraeg.
Wrth ystyried dogfen - Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dylai Ysgol Dyffryn Conwy symud yn naturiol i Gategori 3 sef Ysgol cyfrwng Cymraeg gan ystyried y categori mae ynddi ar hyn o bryd. (Categori 2B)
Categori 3 - Ysgol cyfrwng Cymraeg
Mae ethos Cymraeg a Chymreig gan yr ysgol.
Y Gymraeg yw prif iaith cyfathrebu yr ysgol.
Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni/gofalwyr yn y ddwy iaith.
Bydd ysgol cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) trwy gyfrwng y Gymraeg.
O leiaf 60% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn y Gymraeg.
Disgwylir i ysgolion categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal tra'n gweithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.