Ymagwedd Ysgol Gyfan
Gyrrir y cwricwlwm gan y pedwar diben, sy’n sylfaen i’r holl weithgareddau dysgu. Byddwn yn defnyddio dull holistaidd, lle bydd holl aelodau cymuned yr ysgol yn cyfrannu i ddatblygiad yr unigolyn ar hyd y continwwm 11-16.
Yr Egwyddorion Allweddol
Byddwn yn cynllunio holl brofiadau’r dysgwyr yn yr ysgol i ddarparu cyfleoedd cysylltiedig i ddatblygu’r pedwar diben.
Bydd anghenion yr holl ddysgwyr wrth wraidd y penderfyniadau a wneir ar bob lefel.
Bydd pob aelod o gymuned yr ysgol rannu’r cyfrifoldeb a’r ymrwymiad i addysg integredig y dysgwyr.
Bydd cydweithio’n angenrheidiol er mwyn gwella’r dysgu a dyfnhau dealltwriaeth gysyniadol.
Addysgeg: Cynllunio’r Gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm
Dechreuwyd ar y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm wrth ddatblygu arferion dysgu ac addysgu o’r safon uchaf. Pwysleisir pwysigrwydd Asesu Ffurfiannol a Metawybyddiaeth yn y gwersi gyda’r meddylfryd tŵf yn ganolog.
Datblygwyd strwythur Trosolwg Pynciol y Dysgwr er mwyn sirchau bod y gwaith yn datblygu mewn her a bod tasg gyfoethog yn ganolog i waith yr uned. Y profiadau dysgu a’r profiad o ddysgu.
Agweddau Statudol
Mae’r ysgol wedi rhoi ystyriaeth i’r agweddau statudol canlynol sydd o fewn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru wrth ddylunio ein cwricwlwm:
• Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith
• Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018