•Mae dros 400 o flynyddoedd o hanes addysg yn Llanrwst o ysgol ramadeg i’n hysgol gyfun ddwyieithog presennol. Rydym yn ysgol gymunedol naturiol ddwyieithog gydag oddeutu 610 o ddisgyblion o 11 - 18 oed.
•Credwn fod natur ddwyieithog yr ysgol yn un sy’n gwasanaethu anghenion ieithyddol a diwylliannol gwahanol ddisgyblion y dalgylch, gan roi gogwydd Cymreig a Chymraeg i’n disgyblion a datblygu eu sgiliau a phrofiadau yn y ddwy iaith.
•Lleolir yr ysgol ar safle braf iawn yn Nyffryn Conwy, safle sydd yn cyfoethogi'r dysgu. Gwasanaethir yr ysgol ddisgyblion tref Llanrwst a’r holl ddyffryn. Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth glos sydd gennym â’n 13 ysgol gynradd dalgylch sydd yn sicrhau trosglwyddo hapus i’n disgyblion i ysgol glos a chartrefol.
•Cynigwn i bob disgybl, beth bynnag eu gallu a chefndir, ymdeimlad o werth a hunan hyder.
•Ein nod yw bod yn ysgol gartrefol, gymunedol a chynhwysol lle gallwn weithio gyda phob disgybl i’w cynorthwyo i gyrraedd eu potensial. Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan geisio rhoi pob cymorth i’n disgyblion lwyddo o fewn y cwricwlwm a drwy ystod o weithgareddau allgyrsiol amrywiol.
•Anelwn at ddarparu’r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr hyderus dwyieithog a dysgwyr annibynnol gyda’r sgiliau angenrheidiol i’r dyfodol.
•Rydym yn hynod falch o lwyddiannau ein disgyblion yn academaidd, ym maes chwaraeon, yn y celfyddydau ac ym myd gwaith ac astudiaeth bellach wedi gadael yr Ysgol.