Mae dilyniant dysgwyr ar hyd continwwm dysgu yn ganolog i'r Cwricwlwm newydd. Byddwnfel ysgol yn defnyddio amrywiol strategaethau asesu a fydd yn galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd gan sicrhau bod hyn ar gyflymder priodol a'u bod yn cael eu cefnogi a’u herio yr un pryd.
Y 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig mandadol yw’r sail i gynnydd y dysgwyr a byddwn yn defnyddio'r Disgrifiadau Dysgu ar gyfer asesu a chynllunio ar gyfer cynnydd y dysgwyr. Trwy archwilio’r syniadau a’r egwyddorion allweddol sy’n cael eu cynnwys yn y datganiadau hyn y bydd dysgwyr yn datblygu eu dysgu.
Bydd rhain yn cyfateb yn fras i ddisgwyliadau ar gyfer oedrannau 11, 14 a 16 ac yn cynnig arweiniad ar sut y dylai dysgwyr ddangos cynnydd o fewn pob Datganiad.
Pwrpas Asesu‘r Cwricwlwm
1.Cefnogi dysgwyr unigol
Byddwn yn defnyddio asesu ffurfiannol yn y dosbarth o ddydd i ddydd a bydd hyn yn rhoi darlun clir o gyrhaeddiad a chamau nesaf i'r dysgwyr ac ymarferwyr.
2.Cofnodi cynnydd dysgwyr dros amser
Mi fyddwn fel ysgol yn sicrhau bod yna gyfnodau penodol a rheolaidd i athrawon ac ymarferwyr drafod cynnydd ac anghenion dysgwyr a grwpiau penodol o ddysgwyr drwy ddeialog broffesiynol er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd pellach.
Mi fydd trafodaethau yn hwyluso ac yn hyrwyddo unrhyw drosglwyddo a phontio rhwng dosbarthiadau ac hefyd o fewn y clwstwr yma yn Nyffryn Conwy.
3. Myfyrio ar gynnydd grwpiau o ddysgwyr
Byddwn yn gwneud defnydd ffurfiannol o brofion cenedlaethol a phrofion safonedig e.e. PASS, NGRT, AWRT a CAT4 yn ôl y galw wrth fyfyrio ar gynnydd grwpiau o ddysgwyr.
4. Cyfathrebu gyda rhieni / gwrachodwyr
Byddwn yn cyfathrebu’n gyson gyda rhieni/gwrachodwyr yn barhaus er mwyn meithrin perthynas cadarnhaol a'u cynnwys mewn deialog pwrpasol ac ystyrlon. Mi fydd hyn yn cynorthwyo a hwyluso cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni/gwarchodwyr i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu y tu mewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.
Yr ydym am ystyried defnyddio amrywiaeth eang o wahanol ddulliau cyfathrebu, e.e. wyneb yn wyneb, adroddiadau, cyfarfodydd rhithiol ac e-bost. Bydd gwybodaeth am unrhyw gymorth, ymyraethau neu anghenion ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer datblygiad y dysgwr yn cael ei rhannu gyda'r rhieni a gwarchodwyr.
Cynllunio ar gyfer Cynnydd
Yr ydym eisioes wedi sefydlu hinsawdd asesu ar gyfer dysgu â phwyslais a chysondeb wrth farcio tasgau a rhoi cyfle i ddisgyblion wella eu gwaith yn barhaus gyda’r drefn ‘Bocs Melyn’ a’r defnydd o hunanasesu a gwella gan ddefnyddio’r beiro werdd.
Gosodir targedau yn seiliedig ar feini prawf llwyddiant a chyfle i ddisgyblion gael eu herio/ailddrafftio/gwella yn y dasg ‘bocs melyn’ ar ddiwedd y dasg.
Mae taith cynnydd y dysgwr yn amlwg wrth iddynt arfer gwella a mireinio ei waith yn gyson, y bwriad yw sicrhau taith hyder y disgybl hefyd.