Gweledigaeth Clwstwr Dyffryn Conwy
Ein nod fel clwstwr ydi sicrhau bod pob dysgwr yn :
- barchus ac yn mwynhau perthyn i deulu a chymuned hapus,
- cael cyfle i lwyddo,
- dathlu amrywiaeth,
- derbyn profiadau cyfoethog ac eang,
- cael eu hysbrydoli i fod yn chwilfrydig a chreadigol,
Yng nghlwstwr Dyffryn Conwy mae’r cefndiroedd ieithyddol yn eang:
- bydd pob ysgol yn anelu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn unigolion dwyieithog sydd yn falch o’r Gymraeg, Cymreictod a’u bro.
Gwnawn hyn oll er mwyn datblygu unigolion annibynnol iach a hyderus.