Yn dilyn treialu cynlluniau newydd eleni, pwysleiswyd pwysigrwydd gwerthuso yn barhaus.
Defnyddiwn y system HYDER er mwyn gwerthuso ac ymateb, a oes her digonol yn y gwaith, a yw’r disgyblion yn ymrwymo i’r gwaith, a oes cyfleon i ddisgyblion ddyfnhau meddwl, beth yw effaith y dysgu? A oes cyfle i ad-alw gwybodaeth, rôl fodelu a mireinio sgiliau adolygu at arholiad?
Drwy gyflwyno Trosolwg Pynciol y Dysgwr, y bwriad yw sicrhau bod y cynlluniau yma yn rhai byw, sy’n cael eu haddasu drwy’r amser er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd parhaus y disgybl. Mae’n hollbwysig bod llais y dysgwr yn cael ei glywed ar lefel adrannol, maes dysgu a phrofiad ac ar lefel ysgol. Bwriedir myfyrio ar y cynlluniau, adolygu ac addasu yn dymhorol.