Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm. Wrth gynllunio ein cwricwlwm, byddwn yn ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i ni eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Yr ydym fel rhan o'n gweledigaeth am sicrhau sylfaen gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'.
Yr ydym am sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Rydym yn ystyried, yn rhannu ac yn datblygu ein dulliau addysgu’n barhaus, a hynny’n seiliedig ar ein dealltwriaeth o’r 12 egwyddor addysgegol a nodir yn Fframwaith y Cwricwlwm ac ar y dulliau yr ydym ni’n eu canfod yn llwyddiannus yn yr ysgol hon.
Mae addysgu a dysgu da yn:
canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd
defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol
golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu
dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd
atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer
annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
hybu cydweithio
HYDER
Defnyddiwn y system HYDER er mwyn cynllunio gan ystyried bob tro y pethau canlynol:
A oes her ddigonol yn y gwaith?
A fydd y disgyblion yn ymrwymo i’r gwaith, a yw’r gwaith yn ennyn diddordeb?
A oes cyfleon i ddisgyblion ddyfnhau meddwl, a yw’r gwaith yn cynnig digon o her? A yw’r athro yn hwyluso’r dyfnder?
Beth yw effaith y dysgu? Beth yw deilliant y wers?
A oes cyfle i ad-alw gwybodaeth, rôl fodelu a mireinio sgiliau adolygu at arholiad er mwyn dysgu a gwreiddio’r wybodaeth a’r sgiliau?