Does dim yn fwy hanfodol na bod pob dysgwr sydd yn dod yma i Ysgol Dyffryn Conwy yn:
cael mynediad at addysg eang a chytbwys o fewn cymuned deuluol a hapus,
derbyn mynediad cyflawn at y profiadau a’r wybodaeth maent ei hangen er mwyn blaguro,
datblygu sgiliau amrywiol wrth baratoi ar gyfer byd gwaith,
barod ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol,
cael eu hysbrydoli i fod yn falch o’u hunaniaeth drwy’r iaith Gymraeg, Cymreictod a dwyieithrwydd.
Er mwyn gwireddu’r rhain byddwn yn:
ysbrydoli dysgwyr i lwyddo, ffynnu a thyfu drwy osod disgwyliadau uchel i bawb,
hyrwyddo lles personol a rhoi cyfle i bawb flasu llwyddiant a chyflawni eu potensial,
yn herio anwybodaeth a ffug-wybodaeth,
annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.
Cwricwlwm ysgol ydy popeth y mae dysgwr yn ei brofi yn yr ysgol ac wrth ddylunio’r cwricwlwm arloesol hwn mae anghenion ein dysgwyr yn rhan hanfodol o’n bwriad. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i Beth rydyn ni’n ei addysgu, Sut rydyn ni'n ei addysgu a hefyd Pam rydyn ni'n ei addysgu.