Y 4 Diben ydy craidd a chalon Cwricwlwm Ysgol Dyffryn Conwy.
Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob dysgwr yma yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben.
Nodau'r Cwricwlwm
Trwy gwricwlwm perthnasol, pwrpasol a deinamig, rydym yn anelu at danio angerdd am ddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cwricwlwm ysbrydoledig a heriol sy'n adlewyrchu ein cymuned ac sy'n diwallu anghenion pob plentyn. Bydd ein cwricwlwm yn grymuso plant i adeiladu ar eu sgiliau a'u gwybodaeth a chael eu cymell a'u herio i ddysgu ac i fod â dyheadau uchel. Yn ganolog i'n cwricwlwm cynhwysol mae ein hymrwymiad i ddatblygu meddylfryd a pherthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd, a thrwy hynny greu'r amodau i ffynnu. Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau annibynnol a chydweithredol a fydd yn galluogi plant i ddod yn feddylwyr moesol a gwneud cyfraniad effeithiol i'n cymuned leol a'r byd ehangach.
Unigolion iach hyderus
Unigolion deallus, onest a hyderus sy'n arddangos hunan-gred, hunan-barch ac sydd â gwerthoedd personol cadarnhaol.
Unigolion sy'n deall ac yn arddangos empathi tuag at emosiynau a chredoau eraill ac sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd diogelwch personol, iechyd meddwl a chorfforol da a diet da.
Unigolion sydd â dealltwriaeth o Hawliau Plant a'u cyfrifoldebau personol wrth ddangos sgiliau cymdeithasol cadarnhaol, ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd.
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
Unigolion sy'n dangos gwytnwch, yn croesawu her ac yn arddangos agweddau cadarnhaol tuag at bob agwedd o fywyd yr ysgol.
Unigolion sy'n dangos dyfalbarhad, yn ddyheadol ac yn ymdrechu am safonau uchel wrth gydnabod bod gwneud camgymeriadau yn arwain at ddysgu.
Unigolion sy'n uchelgeisiol, yn credu yn eu gallu eu hunain ac sy’n gwerthfawrogi bod ymdrech ac agwedd cadarnhaol tuag at eu dysgu yn allweddol.
Dinasyddion Gwybodus Moesegol
Unigolion sydd, trwy brofi amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol, emosiynol, diwylliannol ac ysbrydol, yn dod yn ddinasyddion cyfrifol.
Unigolion sy'n gwneud dewisiadau da ac sydd â dealltwriaeth o faterion cymdeithasol, moesol a moesegol.
Unigolion sydd ag ymdeimlad o berthyn a balchder yn eu hysgol a'u cymuned ehangach.
Cyfranwyr mentrus, creadigol
Unigolion, sydd wedi'u grymuso i fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn cymryd rhan lawn yn eu dysgu.
Unigolion creadigol, sy'n meddwl yn annibynnol ac yn cymryd rhan lawn yn eu dysgu a'u bywyd ysgol a chymuned.
Unigolion dyfeisgar a myfyriol, sy'n rhannu syniadau'n hyderus, yn defnyddio'u sgiliau a'u gwybodaeth i ddatrys problemau a meddwl am eu dysgu.
Unigolion sy'n dangos hyblygrwydd meddwl ac yn croesawu'r her o ddatrys problemau.
Yn anad sicrhau y bydd ein dysgwyr yn datblygu atgofion
hapus o’u cyfnod yn Ysgol Dyffryn Conwy.