Pwyllgor Carnifal Creigiau

Mae Carnifal Creigiau'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn olaf mis Mehefin a chaiff ei drefnu gan bwyllgor bach o drigolion lleol. Gan ddenu hyd at 1,800 o bobl bob blwyddyn, y carnifal yw digwyddiad mwyaf y pentref ac mae'n ddiwrnod hwyliog i'r teulu cyfan, gyda gorymdaith o gerbydau carnifal, gwisg ffansi, ffair, diddanwr plant, gemau, stondinau a lluniaeth.


Mae ein clybiau chwaraeon lleol a Creigiau 23 yn dod ynghyd i helpu yn y digwyddiad sy'n codi arian ar gyfer grwpiau lleol y pentref ac ar gyfer cyfleusterau. Mae'n ffordd o gyfrannu at fywyd y pentref mewn modd sy'n rhoi boddhad mawr.


Cysylltwch â: Creigiau-carnival@outlook.com