Wedi'i sefydlu ers 1969, mae Creigiau 23 yn sefydliad â'i wreiddiau'n ddwfn yn y pentref. Bwriad y mudiad yw hyrwyddo cyfeillgarwch a chefnogi'r gymuned drwy godi arian ar gyfer sefydliadau a grwpiau lleol yng Nghreigiau a'r cyffiniau. Rydym yn cyfarfod fel arfer yng Nghlwb Golff Creigiau bob mis am gyfarfod swper, ac yn cael cwmni ystod o siaradwyr diddorol, uchel eu proffil.


Yn ogystal â helpu i drefnu Carnifal Creigiau bob blwyddyn, mae Creigiau 23 hefyd yn trefnu'r Te Prynhawn blynyddol, y Daith Gerdded ar Ŵyl San Steffan, ac ymweliad Siôn Corn â Neuadd y Pentref ar Noswyl Nadolig. Ers ei sefydlu, mae Creigiau 23 wedi rhoi miloedd o bunnoedd i sefydliadau lleol, ac nid oedd y llynedd yn eithriad; rhoddwyd dros £5,000 i sefydliadau lleol.

Cysylltwch â: www.creigiau23.org.uk