Mae Clwb Criced Creigiau, a ailsefydlwyd ym 1987 pan ddaeth cartref parhaus ar gael iddo ar y Rec, wedi'i achredu'n Glwb Clubmark ECB ac mae hefyd yn 'Super Club' yng Nghaerdydd. Mae gan y Clwb dimau yng Nghynghrair Criced De Ddwyrain Cymru (1af, 2il & 3ydd XI) ar ddydd Sadwrn, mae'n chwarae gemau cyfeillgar ar ddydd Sul a chanol yr wythnos, ac mae ganddo adran Fenywod ffyniannus sy'n chwarae mewn gemau pêl feddal cyfeillgar a gemau cynghrair.


Mae'r adran Iau wedi bod yn flaenoriaeth erioed ac mae cyfleoedd i blant o 5+ oed gyda'r clwb, sy'n cynnig Rhaglen 'All Stars' i blant 5-8 oed, criced pêl feddal i blant o dan 9 a chriced pêl galed i grwpiau dan 11 i dan 15. Yn 2021, ein bwriad yw cyflwyno'r Rhaglen 'Dynamos' i ferched rhwng 9 a 14 oed.

Mae gan y Clwb gysylltiad cadarn gyda chymuned Creigiau ac mae croeso bob amser i aelodau newydd, o bob gallu, a hoffai ddod i chwarae, gwirfoddoli neu gyfrannu mewn unrhyw ffordd.

Cysylltwch â: Ben Taylor (Cadeirydd & Cydlynydd Iau) ar 07999 070537 drwy neges destun/ffôn/WhatsApp neu creigiau.play-cricket.com