Rhoi

Rydym yn y broses o sefydlu dulliau diogel o roi - i fynegi diddordeb, cliciwch ar y ddolen ac e-bostio ni



Rydyn ni’n codi arian i ddarparu diffibriliwr a allai achub bywydau yn Ardal Hamdden ‘Rec’ Creigiau.

A wyddech chi fod rhwng 80,000 a 120,000 o bobl yn dioddef o ataliad y galon mewn lle cyhoeddus bob blwyddyn yn y DU?

Mae ataliad y galon yn gallu effeithio ar unrhyw un, hyd yn oed plant. Mae diffibrilio’n fuan yn achub bywydau.

Mae pobl ifanc mewn perygl o ataliad y galon am fod eu calonnau’n parhau i dyfu a datblygu nerth. Maent hefyd yn agored i ataliad y galon yn dilyn ergyd lem i’r frest, fel arfer yn ystod chwaraeon.

Yr unig driniaeth bendant i rywun sy’n dioddef ataliad y galon yw CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd) effeithiola diffibrilio cynnar, ac mae’n rhaid i hyn gael ei wneud o fewn 3-5 munud ar ôl i’r unigolyn gael ei daro’n wael; mae hyn yn codi’r gobeithion o oroesi o 6% i 74%.

Rydyn ni’n codi arian i ddarparu diffibriliwr i Ardal Rec Creigiau, er mwyn sicrhau diogelwch mwy na 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r Rec pe bai achos anffodus o Ataliad Sydyn y Galon yn digwydd.

Y swm rydyn ni’n ceisio’i godi yw £1600. Bydd hyn yn cyllido’r cyfarpar a’r hyfforddiant cychwynnol. Caiff unrhyw arian a godir uwchben hyn ei ddefnyddio i gynorthwyo i ddatblygu ardal y Rec.

MAE ANGEN EICH HELP

Byddai’r cyfarpar yn cael ei leoli mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd ac am ei fod yn gwbl awtomatig, nid oes angen hyfforddiant penodol i’w ddefnyddio – y peiriant ei hun sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Bydden ni’n gobeithio na fydd byth angen ei ddefnyddio ond byddai gwybod ei fod yna’n darparu tawelwch meddwl aruthrol i’n staff a’n rhieni, pe bai byth ei angen mewn argyfwng.

Does dim dwywaith bod diffibriliwr yn ychwanegiad da i ardal y Rec.

RHODDION

P’un ai £5, £10 neu fwy y gallwch ei roi... bydd pob rhodd yn gyfraniad anferth tuag at ein nod o brynu diffibriliwr a helpu i gadw ein cymuned yn ddiogel.

Am bob rhodd, gallwn dderbyn Cymorth Rhodd sy’n ychwanegu 25% i’ch rhodd garedig; am bob £1 a roddir, cawn ni £1.25 gyda Chymorth Rhodd.

Diolch

Ymddiriedolwyr Elusen Hamdden Creigiau


Creu llwybr ar hyd y perimedr


Creu ardal bicnic


Creu llwybr mynediad