Clwb Tenis Lawnt Creigiau

Mae Clwb Tenis Creigiau yn bodoli ers bron i 100 mlynedd, ac yn defnyddio'i leoliad presennol ar y Rec ers 1981. Mae gan y clwb dri chwrt caled, gyda llifoleuadau ar un ohonynt.


Mae gennym dîm tenis menywod llwyddiannus iawn, sy'n cystadlu mewn tenis cynghrair yn yr haf, a thimau feteraniaid cymysg a menywod, sy'n chwarae yng nghynghrair y gaeaf. Rydym hefyd yn gobeithio sefydlu tîm dynion yn ystod yr haf eleni.

Boed yn ddymuniad i chwarae yn y gynghrair, cymdeithasu, magu ffitrwydd, neu gael hwyl fel teulu, byddem wrth ein bodd i’ch derbyn i'n plith. Mae croeso cynnes i aelodau newydd.

Mae gennym hyfforddwr brwd iawn hefyd, Tom Richards 07702 788713. Mae modd cysylltu â Tom am hyfforddiant o bob lefel i oedolion unigol neu mewn grŵp. Mae hyfforddiant iau ar gael hefyd, eto i unigolion neu mewn grwpiau, ac mae cynlluniau haf a gaeaf ar gael i blant. Cysylltwch â Tom am fwy o wybodaeth.


Am fanylion ymaelodi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y clwb:

Trudi Evans 07768 386119 / 02920 890036

Wendy Cutler (Ysgrifennydd) ar 07923 434361

Gwefane https://clubspark.lta.org.uk/creigiaultc