Hanes

Mae ein caeau hamdden, y Rec, ar ochr ddwyreiniol y pentref; mae tua 15 erw o dir, wedi'i amgylchynu gan goed. Mae'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon a hamdden, gan gynnwys criced, pêl-droed, saethyddiaeth, tenis a pétanque.

Yn y pafiliwn presennol, mae dwy ystafell newid, cegin fach ac ystafell gyfarfod. Cafodd ei gwblhau ym 1981 gan Gyngor Taf Elái yn dilyn pwysau parhaus gan glwb lleol, 'Creigiau 23', a thrigolion lleol a oedd yn awyddus i wneud defnydd o'r caeau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon.

Mae'n ardal hyfryd sy'n ddelfrydol ar gyfer ymarfer corff, cerdded cŵn neu amser llonydd tawel tra'n mwynhau'r golygfeydd wrth un o'r meinciau.