Clwb Pêl-droed Creigiau

Rydym wir yn glwb lleol; mae mwyafrif ein sgwad a'n hyfforddwyr yn dal i ddod o Greigiau a'r pentrefi cyfagos ac fe welwch chi ni bob blwyddyn yng Ngharnifal Creigiau, yn rhedeg stondinau ac yn helpu i wneud y digwyddiad hwnnw'n gymaint o lwyddiant.



Rydym yn hyfforddi ar nos Fercher (20:00 tan 21:00) ar gae 3G y Brifysgol yn Nhrefforest ac rydyn ni bob amser yn awyddus i ddenu chwaraewyr newydd i'r tîm.


Yn y gorffennol rydym hefyd wedi rhedeg timau dan 18 (Ieuenctid) a Feteraniaid a bydden ni'n hoffi gwneud hynny eto (yn arbennig y rhai hynny ohonom ni oedd yn chwarae yn nyddiau cynnar y Gynghrair Sul) petai modd dod o hyd i chwaraewyr a hyfforddwyr. Os oes gennych ddiddordeb chwarae, helpu gyda threfnu a datblygu'r clwb hefyd o bosibl neu gyda'n hymdrechion codi arian, cysylltwch â ni.



Cysylltwch â:


Chris "Jacko" Norey (Ysgrifennydd) ar 07900 686253 neu norey@btinternet.com