Mae Elusen Hamdden Creigiau yn rheoli caeau hamdden Creigiau a’i nod yw gwella a datblygu'r cyfleusterau presennol i ddefnyddwyr o bob math

Gofynnwn yn garedig i chi ein cefnogi drwy gynnig rhodd neu wirfoddoli fel y gallwn gyflawni ein cynlluniau cyffrous. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cyfleusterau presennol wedi'u cyfyngu i gae chwarae, pafiliwn bach ac ystafelloedd newid ynghyd â chwrt Pétanque.

Rydym am ddatblygu'r cyfleusterau presennol a'u gwneud yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl ac at ddibenion helaethach.


Ymhlith ein cynlluniau cyffrous mae:

1) Man Chwarae Aml-ddefnydd (MUGA)

2) Maes chwarae ac ardal ymarfer corff awyr agored

3) Ymestyn y pafiliwn at ddefnydd helaethach a chyda chyfleusterau ychwanegol

4) Llwybr ar hyd y perimedr ar gyfer cerdded, ymarfer corff a mwynhau natur