Clwb Golff Creigiau

Mae Clwb Golff Creigiau yn gwrs destlus, hardd, hawdd ei gerdded ar barcdir yng Nghaerdydd ar ochr ogledd-ddwyreiniol pentref Creigiau. Mae'n darparu her dda i golffwyr o bob oedran a safon ac mae ffyrdd clir coediog yn gwobrwyo trawiadau cywir oddi ar y tïau.


Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r cwrs wedi cynnal nifer o Bencampwriaethau Sirol a Chenedlaethol yn ogystal â bod yn gyn-enillydd Clwb Golff Cymru'r flwyddyn yn 2003, 2004 a 2005 yng nghategori'r amgylchedd. Mae Creigiau'n croesawu pawb o'r adran iau o dan 9 oed i chwaraewyr di-brofiad a dechreuwyr a hefyd chwaraewyr mwy profiadol.


Mae aelodaeth gymdeithasol gennym hefyd sy'n ffynnu, ac rydym yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys cwis misol, raffl fisol am ddim i aelodau, dawns haf a pharti nos Galan.

Mae golygfeydd godidog dros y cwrs golff o'r holl ystafelloedd yn ein Clwb. Gydag ystafell ddigwyddiadau sy'n gallu dal hyd at 120 o bobl, yn ogystal â'n bar preifat i fyny'r grisiau sy'n edrych dros y 18fed twll, mae'r opsiynau ar gyfer cynnal dathliadau a digwyddiadau'n ddi-rif.


Cysylltwch â: creigiausecretary@gmail.com neu

drwy www.creigiaugolfclub.co.uk am fwy o wybodaeth.