Cefnogi ni

Cyfrannu

Y ffordd orau o'n cefnogi fyddai cyfrannu drwy roi fel y gallwn weithio tuag at wella'n sylweddol y cyfleusterau a ddarperir i'r pentref.

Gwirfoddolwr

Mae angen eich cymorth arnon ni gyda rhywfaint o'r gwaith ar y Rec - ein bwriad yw plannu blodau ar hyd llwybr newydd y perimedr, er enghraifft. Fyddech chi'n fodlon gwirfoddoli ychydig o'ch amser i helpu gyda hyn?


Lledwch y gair

Cefnogwch Elusen Hamdden Creigiau (EHC) drwy godi ein proffil - rhannwch negeseuon cadarnhaol a lluniau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r dolenni cyfryngau cymdeithasol i'w gweld ar waelod pob tudalen.