Mae'r cam gyntaf yma yn holl bwysig, yma byddwch yn casglu gwybodaeth a chael dealltwriaeth o'r ddarpariaeth cymhwysedd digidol bresennol.
Mae'n bwysig hefyd adnabod y rhwystrau yn ogystal a'r agweddau hynny sy'n cyfrannu at eich ddarpariaeth er mwyn medru ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol fel sgil traws-gwricwlaidd.
Fedrwch casglu'r wybodaeth ac adrodd ar eich sefyllfa bresennol mewn sawl ffordd;
Fframwaith Hunan-Asesu 360 Safe Cymru a 360 Digi Cymru
Polisi Diogelwch Ar-Lein
Trafod gyda Staff
Sgyrsiau Cynnydd - Gwrando ar ddysgwyr
Taith ddysgu / Craffu
Gwarantu Ansawdd
Mae’r portffolio hwn o dempledi Polisi Diogelwch Ar-lein ar gyfer ysgolion neu leoliad addysg. Bwriad y templed yma yw i helpu arweinwyr lunio Polisi Diogelwch Ar-lein addas sy’n ystyried yr holl faterion presennol a pherthnasol, mewn cyd-destun ysgol gyfan, a'u cysylltu â pholisïau perthnasol eraill, megis polisïau diogelu, ymddygiad a gwrth-fwlio yr ysgol.
Mae'r polisïau templed yn awgrymu datganiadau polisi a fyddai, ym marn Llywodraeth Cymru, yn hanfodol mewn unrhyw Bolisi Diogelwch Ar-lein ysgol, yn seiliedig ar arfer da.
Rhaid teilwra'r Polisi ar gyfer eich ysgol a bydd y drafodaeth a'r ymgynghoriad sydd yn digwydd yn ystod ysgrifennu neu adolygu'r polisi yn rhan bwysig o'r broses. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi yn cael ei berchnogi a'i dderbyn gan gymuned gyfan yr ysgol.
Mae'n bosib casglu gwybodaeth wrth staff mewn sawl ffordd.
Awdit Staff
Fedrwch rhannu awdit sy'n mesur sgiliau digidol staff, a'i hyder i addysgu sgiliau a chynnig profiadau gan sicrhau lefel briodol o her.
Dyma dolenni i dempled holiaduron fedrwch chi addasu a rhannu.
Gallwch ei ddefnyddio yn y cam hwn i adnabod y waelodlin, a'i ailadrodd ymhen amser er mwyn mesur effaith eich gweithredu ar eich staff.
Ar gyfer y ddolen gyntaf bydd angen i chi glicio ac yna dewis yr opsiwn i ddyblygu. I gwblhau yr holiadur yn y Gymraeg rhaid mynd i'r opsiynau iaith ar rhan uchaf y sgrîn a dewis 'Cymraeg'.
Holiadur Staff (Microsoft Forms)
Holiadur Staff (Google Forms) (Cymraeg) Staff Questionnaire (Google Forms) (English )
Sgyrsiau Professiynol
Mae'n bosib y fedrwch chi gynnal sgyrsiau professiynol gyda phenaethiaid adran a thrwy adolygu cynlluniau gwersi, trafod safonnau a datganiadau'r fframwaith mae'n bosib nodi ble mae'r gwaith digidol yn fitio i mewn i'r Fframwaith.
Ffurflen monitro'r ddarpariaeth ar draws y cwricwlwm.
Awgrym
Yma, fedrwch chi rhannu'r ffeil Excel gyda holl athrawon yr ysgol gan holi iddynt gwblhau er mwyn i chi gael trosolwg o'r ddarpariaeth bresennol.
Cliciwch YMA i lawrlwytho'r ffeil yma
Er mwyn lawrlwytho ffeil fel Excel bydd rhaid mynd i File > Download > Microsoft Excel
Dull arall i gasglu gwybodaeth a chael dealltwriaeth o'r ddarpariaeth digidol yw drwy cynnal sgyrsiau cynnydd.
Awgrym?
Mae'n bosib y byddwch chi eisiau cyfweld â thrawstoriad o ddysgwyr, draws ystod o oedrannau. Fedrwch naill ai cyfweld â phawb ar unwaith neu cyfweld â'r dysgwyr fesul blwyddyn / dosbarth.
Mae'r weithgaredd yma yn rhoi'r cyfle i chi drafod ei gwaith, ac i holi iddynt egluro'r hyn maent wedi ei dysgu a chyflawni, a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir.
Yn ogystal a medru gweld os oes cysondeb yn y ffordd mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio, byddwch hefyd yn tystio hyder eich dysgwyr wrth iddynt trafod gwahanol dasgau.
I gwblhau'r swgrs o bosib y byddwch chi eisiau trafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn ei helpu i godi safon eu gwaith.
Drwy graffu ar waith byddwch yn edrych dros waith eich dysgwyr dros gyfnod o amser.
Awgrym
Mae taith ddysgu neu craffu gwaith digidol yn caniatau i chi ganolbwyntio ar drawstoriad o ddysgwyr naill ai drwy'r ysgol neu mewn ystod oedran arbennig.
Er mwyn i chi gael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth am y dasg dan sylw fedrwch gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr.
Cofiwch fod angen casglu darnau o waith sydd o bosib wedi'i gadw mewn mifer o wahanol wasanaethau (e.e. OneDrive, Teams, Google Drive, Flip, Adobe Express, ayyb.). Golyga hyn bod hwn hefyd yn fantais i wneud y weithgaredd yma ochr yn ochr â'r dysgwyr.
Fedrwch wirio y nifer o agweddau digidol sy'n cael eu addysgu, cysondeb ar draws y meysydd, safonnau / lefel her briodol a dilyniant.
Drwy gwneud y weithgaredd yma ar gyfnodau penodol fedrwch casglu gwybodaeth am cyflawniad dysgwyr dros gyfnod mwy estynedig o amser.
Mae'n bwysig eich bod yn adrodd ar gynnydd yn dilyn unrhyw weithgaredd monitro, gwerthuso neu adolygu.
Gall adroddiad cynnydd gyferio at:
Pa mor dda mae’r dysgwyr yn Dysgu?
Pa mor dda yw’r profiadau dysgu ac addysgu?
Cryfderau
Meysydd i'w ddatblygu
Camau Gweithredu
Cofiwch, wrth ysgrifennu'r adroddiad cynnydd mae'n bwysig;
cyfeirio at y cwestiwn / cwestiynau ymholi
cyfeirio at y tystiolaeth a welwyd yn ystod eich gweithgaredd monitro
ysgrifennu'n arfarnol
cynnwys camau gweithredu er mwyn datblygu'r maes ymhellach.
Am gymorth pellach ar sut i lunio adroddiad cliciwch YMA