Dyma ychydig o 'top tips' i chi i'ch helpu i ysgrifennu eich adroddiadau:
Defnyddiwch iaith gryno ac arfarnol bob amser
Byddwch yn glir eich barn - defnyddiwch eirfa arfarol i gyfleu eich barn yn glir e.e gwan / cryf / cynnydd sylweddol
Byddwch yn onesd - peidiwch a bod ofn cynnwys sylw negyddol. Mae angen cyfleu unrhyw wendidau arwyddocaol yn ogystal ac adnabod cryfderau
Peidiwch a defnyddio brawddegau hir a iaith amwys
Mae’n hollol dderbyniol defnyddio ffurfiau cryno’r ferf sy’n fwy cyfarwydd fel ‘Daw mwyafrif y disgyblion’, neu ‘Gwna’r disgyblion gynnydd da’ mewn adroddiadau.
Fodd bynnag, dylech osgoi gorddefnyddio ffurfiau cryno’r ferf sy’n fwy cymhleth. Gall y ffurfiau cryno cymhleth hyn beri anhawster i rai darllenwyr lleyg gan nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gyson ar lafar yn y Gymraeg erbyn hyn.
Enghreifftiau o ffurfiau cryno i geisio eu hosgoi yw ‘asesa athrawon gynnydd y disgyblion’, ‘ymroddant yn llwyr i’r dasg dan sylw’ neu ‘diarddelwyd’ pedwar disgybl’.
Mae ffurfiau amhersonol y ferf hefyd yn gallu peri anhawster i rai darllenwyr lleyg. Wedi dweud hynny, mae’n bwysig cadw mewn cof nid cofnod o iaith sy’n dderbyniol ar lafar yw iaith ysgrifenedig. Nid oes angen glastwreiddio wrth ysgrifennu.
Yn ogystal, mae osgoi ffurfiau cryno yn ormodol yn medru arwain at gyfres o frawddegau yn dechrau â ‘Mae’. Gall hyn amharu ar y darlleniad a bod yn fwrn i’r darllenydd. Ffordd arall o osgoi gorddefnydd o ‘mae’ yw amrywio’r cystrawennau a ddefnyddiwch, er enghraifft ‘Ansawdd yr addysgu yw un o gryfderau’r ysgol’ yn hytrach na dechrau’r frawddeg â ‘Mae ansawdd yr addysgu yn ...’ neu ‘Un o nodau’r ysgol yw...’ yn hytrach na ‘Mae...yn un o nodau’r ysgol’.
Mater o daro’r cydbwysedd priodol rhwng y cywair ysgrifenedig safonol ac osgoi ffurfiau mwy cymhleth ar y ferf yw hi yn y pendraw.
Ni ddylech gyfeirio at unigolion wrth eu henwau mewn adroddiadau. Hyd y bo modd, dylech hefyd geisio osgoi gwneud sylwadau mewn adroddiadau sy’n cyfeirio at athrawon neu ddisgyblion unigol neu a allai arwain darllenwyr i adnabod unigolion penodol.
Ni ellir osgoi gwneud hyn mewn rhai achosion gan fod gan rai unigolion mewn ysgolion/darparwyr swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, er enghraifft pennaeth ysgol neu goleg addysg bellach. Fodd bynnag, dylid canolbwyntio yn yr achosion hyn ar y swydd ac nid ar yr unigolyn.
Os oes gan un disgybl mewn ysgol ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu mae un disgybl yn gymwys i brydau ysgol am ddim, mae’n bwysig cyfleu canfyddiadau mewn modd sydd yn osgoi cysylltu canfyddiadau’r arolygiad gydag unigolyn. Lle mae maint ysgol/darparwr yn fach iawn, dylai sylwadau am gynnydd a safonau fod mor gyffredinol â phosibl er mwyn osgoi sylwebaeth bersonol na bwriadwyd ar unrhyw unigolyn.