Dyma'r cam lle fyddwch chi'n rhoi eich strategaeth ar waith.
Mi fyddwch chi wedi dewis grwpiau o fobl i weithio gyda, boed hynny'n adran neu blwyddyn a hynny ar sail penodol. Bydd sgyrsiau gyda'r staff yma am y datblygiadau yr hoffech gwneud wedi digwydd, a chewch ymrwymiad lawn gan y staff yma. Bydd hyn yn hwyluso gweithredu llwyddiannus.
Gweler isod ystyriaethau pellach wrth i chi roi'r strategaeth ar waith.
Sut yr ydych chi mynd i;
mapio y cynnig Fframwaith CD?
sicrhau bod tasgau o safon uchel gyda lefel o her briodol?
weithio gyda adrannau i ddatblygu syniadau Cymhwysedd Digidol gan gynnwys cyfleoedd naturiol ar gyfer datblygiad mewn MDaPh penodol?
cefnogi’r adrannau fydd arnynt angen y gefnogaeth a’r datblygiad mwyaf?
Cliciwch YMA i lawrlwytho'r ffeil yma
Er mwyn lawrlwytho ffeil fel Excel bydd rhaid mynd i File > Download > Microsoft Excel
Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Un enghraifft y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR. Cafodd y model ei greu yn wreiddiol gan Dr. Ruben Puentedura gyda’r bwriad o amlinellu yr arferion gorau i ddefnyddio dysgu digidol yn y dosbarth.
Mae’r model yn cynnwys 4 haenen penodol.
Mae’r ddwy haenen gyntaf , sef Amnewid ac Adio, yn ffocysu ar wella ansawdd y dysgu a gwerth y weithgaredd. Pwrpas y ddau haenen arall , sef Addasu ac Ailddiffinio yw defnyddio offer digidol i drawsnewid y dysgu a chreu posibiliadau newydd.
Bwriad y model SAMR yw i ddatblygu cynnydd mewn dysgu digidol fel grisiau, gydag Amnewid fel y man cychwyn ac Ailddiffinio fel y nod terfynol. Cyfeirir at Amnewid ac adio fel ‘Camau Gwella’, tra mai Addasu ac Ailddiffinio yn cael eu cyfeirio fel Camau Trawsnewid.
Gall y cwestiynau syml isod ei gwneud yn symlach i benderfynu pa gam o'r model SAMR sy'n gweddu eich anghenion. Cofiwch nad oes rhaid i chi ailddiffinio dysgu eich myfyrwyr bob amser. Efallai mai ychydig o ychwanegiadau technolegol syml at strategaeth addysgu sydd eisoes yn effeithiol yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth.