Yn adran gyntaf eich strategaeth byddwch yn nodi eich nodau ac amcanion i ddiffinio eich dyheadau.
Byddwch yn dechrau trwy nodi pwrpas y strategaeth a'r rhesymeg y tu ôl ei luniad. Byddwch hefyd yn pennu dyddiad targed, h.y. diwedd tymor yr haf 2025, erbyn pryd y gobeithiwch gyflawni'r amcanion y byddwch yn eu gosod.
Dylech osod rhwng 2 a 5 nod. Dyma rai enghreifftiau o nodau y gellid eu defnyddio:
Darparu profiadau dysgu digidol cyfoethog sy’n datblygu sgiliau’r dysgwyr.
Datblygu disgwyliadau cyson uchel ar draws yr ysgol gyfan.
Darparu strwythur clir ar gyfer atebolrwydd.
Datblygu ac ymgorffori dulliau cynllunio effeithiol sy’n caniatáu ar gyfer cynllunio dilyniant mewn sgiliau cymhwysedd digidol.
Cefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr i ganiatáu cymhwyso sgiliau digidol yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.
Darparu ystod eang o brofiadau dysgu digidol i bob dysgwr.
Gwella’r dysgu trwy ddefnydd creadigol o dechnoleg ddigidol.
Datblygu dinasyddion digidol gwybodus, moesegol sy'n ddefnyddwyr hyderus a chymwys o dechnoleg.
Darparu ystod eang o brofiadau dysgu digidol o ansawdd uchel sy’n ymwneud â chymhwyso sgiliau bywyd go iawn.
Datblygu ymarferwyr sy’n gallu manteisio’n llawn ar gyfleoedd i ymgorffori cymhwysedd digidol yn naturiol fel arf i gyfoethogi’r dysgu o fewn eu pwnc.
Yn yr adran hon dylech gynnwys gwybodaeth am eich gwaelodlin bresennol er mwyn disgrifio eich man cychwyn.
Dylech gynnwys gwybodaeth fel canfyddiadau monitro ac arfarnu blaenorol, canlyniadau archwiliadau, adroddiadau gwarantu ansawdd a gwybodaeth yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn. Bydd y wybodaeth hon yn cefnogi eich sail rhesymegol a bydd yn sylfaen gymharol ar gyfer mesurau effaith yn y dyfodol.
Cwestiynau i'w hystyried wrth i chi lunio paragraff am eich sefyllfa bresennol:
Sut fyddech chi’n disgrifio eich sefyllfa bresennol?
Pa dystiolaeth ydych chi wedi’i weld i gefnogi hyn?
Beth amlygwyd yn ystod ymarferion monitro, gwerthuso neu adolygu diweddar?
Beth yw'r prif feysydd sy'n peri pryder?
Pa ffactorau allwch chi eu rheoli? Beth sydd tu hwnt i'ch rheolaeth?
Efallai yr hoffech gynnwys dolenni ychwanegol i adroddiadau cynnydd blaenorol, adroddiadau monitro, dadansoddiad o ddata archwilio neu ddata hunanwerthuso 360 Digi Cymru.
Mae'n debyg mai'r adran hon o'ch strategaeth fydd yr un mwyaf swmpus! Yma, byddwch yn cynnwys gwybodaeth ymarferol ar sut y byddwch yn gweithredu eich strategaeth. Dylech gynnwys yr is-adrannau canlynol:
Mae angen diffinio rolau a chyfrifoldebau yn glir yn yr adran hon.
Dyma rai cwestiynau i'w hystyried:
Pa rôl fydd y pennaeth a’r uwch dîm arwain yn ei gymryd?
Beth a ddisgwylir gan yr arweinydd digidol? Beth yw'r dyletswyddau penodol?
A yw'n glir pwy sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y strategaeth h.y. perchennog y strategaeth, a phwy sy'n gyfrifol am reoli'r strategaeth h.y. arwain y gweithredu?
Pwy sy'n gyfrifol am arwain y gwaith o fonitro a gwerthuso'r strategaeth? Sut bydd arweinyddiaeth yr ysgol yn cefnogi’r arweinydd digidol gyda hyn?
Faint o amser ychwanegol fydd yr arweinydd digidol yn ei gael oddi ar yr amserlen i ymgymryd â'r rôl?
Yn yr adran hon bydd angen i chi ddiffinio eich disgwyliadau yn glir.
Awgrym:
Mae rhai ysgolion yn defnyddio dull o osod 'isafswm o ddisgwyliad'. Golyga hyn eich bod chi'n troi'r gwaelodlin targed yn rhywbeth mesuradwy. I wneud hyn, byddai angen i chi osod disgwyliad ar gyfer pob llinyn o'r Fframwaith.
Gall hwn fod yn ddull effeithiol os caiff ei reoli a'i weithredu'n gywir, ond elfen pwysig i'w ystyried yw os byddwch yn dilyn y dull hwn ac yn methu â chyflawni'r gwaelodlin darged, byddwch mewn perygl o fethu a gweithredu'ch strategaeth yn llwyddiannus.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn gosod y disgwyliadau canlynol ar gyfer pob grŵp blwyddyn:
Dinasyddiaeth - o leiaf 4 gweithgaredd y flwyddyn academaidd
Rhyngweithio a chydweithio - o leiaf 6 gweithgaredd y flwyddyn academaidd
Cynhyrchu - o leiaf 6 gweithgaredd y flwyddyn academaidd
Data a meddwl cyfrifiadurol - o leiaf 4 gweithgaredd y flwyddyn academaidd
Bydd y gwaelodlin darged hon yn cael ei haddasu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod wedi taro cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a chyraeddadwy. Byddai angen i’r arweinydd digidol reoli gweithrediad hyn yn ofalus, gan sicrhau bod y gweithgareddau o safon uchel, lle defnyddir cymhwysedd digidol i wella’r dysgu a’r deilliannau ym mhob pwnc. Mae hefyd yn bwysig ystyried a chynllunio ar gyfer dilyniant, er mwyn caniatáu lefel ddigonol o her sy'n datblygu sgiliau dysgwyr yn gynyddol.
Gyda cymhwysedd digidol yn elfen orfodol o Gwricwlwm i Gymru, mae angen i chi benderfynu ar fodel i ganiatáu addysgu'r sgiliau.
Ble addysgir sgiliau llythrennedd? Ble addysgir sgiliau rhifedd? A yw rhain mewn gwersi iaith a mathemateg o bosib?
Ble bydd sgiliau digidol yn cael eu haddysgu?
Mae yna sawl opsiwn ar gyfer hyn:
Model TG disgyblaethol – Mae hwn yn fodel traddodiadol lle mae dysgwyr yn cael gwersi TG rheolaidd lle dysgir sgiliau digidol iddynt a fydd wedyn yn cael eu cymhwyso ar draws y cwricwlwm.
Model hybrid - Mae'r model hwn yn gymysgedd rhwng gwersi TG ac integreiddio'r athro TG i wersi eraill i gefnogi cymhwyso sgiliau penodol. e.e. Bydd yr athro TG yn cefnogi'r athro daearyddiaeth i greu cronfa ddata yn eu gwers.
Model integredig - Yn y model hwn mae'r holl athrawon yn gyfrifol am addysgu a chymhwyso'r sgil. Yn y model hwn byddai llai, ac mewn rhai achosion, dim gwersi TG.
Pa fodel y byddwch chi yn eu defnyddio?
Yn yr adran hon byddwch yn esbonio eich prosesau ar gyfer cynllunio tasgau digidol. Dylid rhoi ffocws ychwanegol yma ar sut yr ydych yn bwriadu cynllunio ar gyfer dilyniant mewn sgiliau digidol.
Dylech hefyd gynnwys manylion proses o fapio os ydych yn bwriadu datblygu'r elfen hon. Mae'n bwysig eich bod yn egluro pwrpas y broses fapio hon h.y. i sicrhau bod pob agwedd o gymhwysedd digidol yn cael ei ddatblgyu, neu i sicrhau cysondeb o ran tasgau o ansawdd uchel ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.
Yn yr adran hon byddwch yn nodi’r pwyntiau twf y byddwch yn eu gwerthuso wrth gyflwyno’r strategaeth. Y pwyntiau twf hyn fydd yn dangos bod y strategaeth yn effeithiol ac yn gwella safonau cymhwysedd digidol ar draws yr ysgol.
Yna byddwch yn nodi sut y bydd y daith tuag at gyflawni nodau'r strategaeth yn edrych yn ystod cyfnodau penodol.
Yn olaf, byddwch yn nodi ac yn cynnig esboniad i'r gylchred monitro, gwerthuso ac adolygu.
Pa agweddau y byddwch yn eu monitro er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd eich strategaeth a'u heffaith ar safonau?
Awgrym
Fedrwch ystyried y canlynol:
Safonau disgyblion
Ehangder profiadau
Ansawdd y cynllunio
Dilyniant mewn dysgu
Dinasyddion digidol hyderus, creadigol a moesegol
Yn yr adran hon byddwch yn nodi sut y bydd y daith tuag at gyflawni nodau'r strategaeth yn edrych. Efallai y byddwch am ddewis pwyntiau allweddol mewn amser ac egluro sut y bydd y pwyntiau twf wedi datblygu erbyn hyn.
Awgrymiadau:
Gallwch ddefnyddio diwedd pob tymor fel pwynt i osod cerrig milltir yn ystod cyfnod y strategaeth.
Dewis arall fyddai gosod cerrig milltir bob 6 mis yn ystod cyfnod y strategaeth.
Ym mhob carreg milltir dylech egluro sut bydd y pwyntiau twf wedi datblygu.
Ceisiwch gynnwys gwybodaeth am sut y bydd profiad y disgybl wedi datblygu.
Yn yr adran hon byddwch yn cynllunio eich gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu gan gyfeirio at eich pwyntiau twf.
Awgrymiadau:
Pennu cwestiynau ymholi clir i sicrhau ffocws i'r ymarferion monitro . Er enghraifft, gall un gweithgaredd monitro ganolbwyntio'n benodol ar ehangder y profiadau a ddarperir. Efallai y bydd yr ymholiad nesaf yn canolbwyntio ar dystiolaeth o ddilyniant mewn sgiliau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r dull o gynnal yr ymholiad. h.y. taith ddysgu, taith ddysgu rithiol, craffu ar waith, trafodaethau gyda'r dysgwr ac ati.
Os eich bod chi'n dymuno ysgrifennu eich strategaeth yn ffurfiol, fedrwch lawrlwytho'r ddogfen yma i'ch helpu.
Er mwyn lawrlwytho, agorwch y ddogfen mewn ffenestr newydd, yna cliciwch ar y botwm 'Download'.