Rydych erbyn hyn wedi profi eich strategaeth. Cyn i chi fynd ati i ehangu'r strategaeth hon ar raddfa fwy cewch cyfle yn awr i adolygu a newid eich gweithdrefnau a phrosesau mewn ymateb i’ch gweithrediad yng ngham 3.
Ydy nodau’r strategaeth yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn uchelgeisiol?
Ydy'r prosesau sy’n sail i weithredu’r strategaeth yn effeithiol ac effeithlon?
Cyfle yn awr i gasglu adborth gan ymarferwyr a oedd yn rhan o gam 3
Gwerthuso cynnydd trwy prosesau gwarantu ansawdd e.e. teithiau dysgu/craffu ar waith gyda’r athrawon/adrannau allweddol perthnasol
Addasu'r strategaeth pe bai angen
Cyfle i adrodd yn ôl i’r UDA / Corff Llywodraethu ar ba mor llwyddiannus oedd gweithredu ar raddfa fechan yng ngham 3.
Oes angen i chi addasu eich nodau neu’ch disgwyliadau cyn i chi fynd ati i ehangu eich strategaeth? (h.y. ydych chi wedi adnabod strwythur a fydd yn hwyluso gweithredu ar raddfa fwy)?
A yw prosesau eich Model Gweithredu yn ddigon syml i eraill eu dilyn?
Beth weithiodd yn effeithiol a beth gallwch chi ei ddefnyddio i enghreifftio i eraill wrth ehangu eich strategaeth?