Rydych nawr yn barod i symud tuag at weithrediad llawn eich strategaeth drwy'r ysgol gyfan. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen i chi lunio cynllun a fydd yn caniatáu i chi gefnogi adrannau ac ymarferwyr i wreiddio'r strategaeth yn llwyddiannus.
Sut rydych chi yn mynd i helpu y nifer cynyddol o adrannau/ymarferwyr i weithredu’r strategaeth, i adeiladu ar y momentwm a chwilio am fwy o ffyrdd i ddatblygu?
Sut rydych chi yn mynd i sicrhau ansawdd, cysondeb ddarpariaeth o brofiadau a dilyniant mewn sgiliau?
Mapio darpariaeth yr ysgol yn erbyn y disgwyliad gwaelodlin fel y gosodir yn y strategaeth
Trefnu sesiynau cymorth wrth i'r nifer cynyddol o adrannau / ymarferwyr cynllunio tasgau digidol yn draws-gwricwlaidd
Monitro cynnydd trwy deithiau dysgu/craffu ar waith
Cynnwys ymarferwyr eraill mewn prosesau monitro ac arfarnu
Targedu ymarferwyr penodol i ddatblygu diwylliant o arloesi a symud i fyny drwy'r model SAMR
Gweithio gyda’r arweinydd dysgu ac addysgu i wella dealltwriaeth o addysgeg
Ar ba gyflymdra wnewch chi ymestyn hyn tuag at weithredu ar lefel ysgol gyfan?
Pa risgiau ydych chi wedi’u hadnabod a allai arafu eich cynnydd?
Sut wnewch chi sicrhau cynnal momentwm yn yr adrannau y dylent eisoes fod yn gweithredu’r strategaeth?
Sut wnewch chi adrodd am gynnydd i aelodau staff?
Sut wnewch chi sicrhau bod eich gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu yn cyd-fynd â cham hwn y broses a’u bod yn eich helpu i fesur effaith eich strategaeth?
I ba raddau y mae’r ysgol wedi datblygu diwylliant o arloesi? Sut gallwn ni ddatblygu hyn ymhellach? Sut gallwn ni gael effaith ar chwilfrydedd, creadigrwydd a sgiliau datrys problemau dysgwyr?
Sut gallwn ni wella addysgeg yng nghyd-destun dysgu digidol, a sut fydd hyn yn cael effaith ar safonau? Pwy all arwain ar hyn?
Oes angen i ni addasu ein disgwyliadau? Oes angen i ni godi disgwyliadau/lefel yr uchelgais?
Sut gallwn ni ehangu’r profiadau rydym ni'n eu cynnig?
I ba raddau gall dysgwyr ddefnyddio eu sgiliau yn annibynnol mewn gwahanol gyd-destunau?