Cyn dechrau mynd ati i greu ffilmiau gyda'ch dosbarth mae'n bwysig yn gyntaf i ystyried beth sydd angen cynnwys mewn ffilm dda. Dyma rhai esiamplau o ffilmiau gwahanol sydd wedi eu creu gan ddysgwyr o oedrannau gwahanol. Dewiswch i wylio'r ffilmiau mwyaf addas i'ch dosbarth chi ac yna gallwch ofyn iddynt drafod / cofnodi ar ffurf map meddwl fel grwpiau (gallwch ddefnyddio yr ap Popplet neu Jamboard i'r dysgwyr i gofnodi yn ddigidol os ydych yn dymuno) pam maent yn meddwl fod y ffilmiau yn effeithiol.