Darllen a deall 'Trwy'r Lens'
Bydd angen darllen y testun am y broses o wneud ffilm ac yna ateb y cwestiynau sydd ar yr ail dudalen.
Gweithagaredd llafar
Mae Michael Sheen yn un o actorion amlycaf Cymru. Cliciwch ar y ddolen YMA i ddarganfod mwy amdano (gallwch wylio y fideo isod, sydd hefyd yn rhan o'r cyflwyniad, i ddarganfod rhagor amdano. Yn dilyn y cyflwyniad ceir gweithgareddau llafar a dyma ddolenni i fframiau siarad a mat iaith gallwch ddefnyddio i gwblhau y weithagredd.
Ysgrifennu sgript
Ysgrifennu araith
Gallwch ddefnyddio y cyflwyniad isod i ddatblygu gweithgaredd ysgrifennu araith gyda'ch dysgwyr y gallen nhw eu thraddodi pe baen nhw’n ennill Oscar.
Gweithgaredd llafar - Mynegi barn am eu hoff ffilm / cas ffilm
Beth am ddefnyddio Flip i recordio cyflwyniadau llafar 30 eiliad eich dysgwyr ar y thema ‘Fy Hoff Ffilm’/‘Fy Nghas Ffilm’? Rhaid iddynt fod yn sbesiffig a chryno am yr hyn maent eisiau ei ddweud o fewn y 30 eiliad. Gellid defnyddio yr ymadroddion mynegi barn sydd ar y daflen isod i'w helpu.
Hyfforddiant Llythrennedd trwy ffilm (Into Film)
Gweithgareddau - Llythrennedd ffilm (Adnoddau Into Film sydd ar Hwb)
Mae'r pecyn llythrennedd yn cynnig nifer o syniadau ar gyfer dadansoddi'r stori a'r cymeriadau o fewn unrhyw ffilm.
Ysgrifennu adroddiad am ymweliad
Dangoswch enghraifft o adroddiad am ymweliad/trip i’r disgyblion o adroddiad am drip i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol. Holwch y disgyblion mewn parau i gofnodi syniadau ar ‘Post-Its’ ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud adroddiad llwyddiannus – o ran cynnwys a diwyg (anogwch hwy i ystyried ffactorau megis teitl addas; amser y ferf/ defnydd effeithiol o ferfau’r gorffennol; defnydd o iaith ffurfiol, amhersonol; defnydd o enwau/berfau/ansoddeiriau/idiomau; paragraffu effeithiol; cynnwys ffeithiau perthnasol a diddorol am yr ymweliad; cychwyn a chloi’r adroddiad yn briodol; cynnwys lluniau/ffotograffau o’r ymweliad, ayyb).
Wedi iddynt drafod, casglwch syniadau pob pâr ynghyd a’u hystyried cyn llunio rhestr o feini prawf llwyddiant adroddiad am ymweliad fel dosbarth cyfan.
• Atgoffwch y disgyblion o’u hymweliad diweddar â hen safle sinema’r Coliseum yn Amgueddfa Ceredigion / Archif Sgin a Theledu yn y Llyfrgell Genedlaethol a.y.b. Trafodwch yr ymweliad ar lafar fel dosbarth, gan annog y disgyblion i wneud defnydd cywir o ferfau’r gorffennol wrth drafod (aethom ni/dysgais i/gwelsom ni, ayyb. Os ydych yn dymuno, gallech gofnodi pwyntiau bras fel dosbarth ynglŷn â phrif gynnwys yr ymweliad er mwyn procio’rdisgyblion.
• Dangoswch y daflen ‘Cynllunio Adroddiad’ i’r disgyblion , ac anogwch hwy i ystyried sut i’w defnyddio’n effeithiol cyn iddynt gychwyn ysgrifennu euhadroddiad.
Cardiau trafod
Writing a film review
Your learners could work independently to plan and write the first draft of a review of their favourite children’s film, with the intention of persuading a friend to watch it. If needed, they can use the film review planning worksheet on based on the structure of the King Kong review (which is undernaeth). Alternatively, pupils could decide for themselves on the structure/content of their review.
After writing their first drafts, ask pupils to work in pairs to read and give feedback on each other’s reviews using ‘Post-it’ notes by referring to the class’ success criteria (this
could be done using the ‘two stars and a wish’ technique).
• Pupils to consider their peers’ views in order to create a second draft of their film review – preferably on the computer (all drafts should be included in the pupils’ project file).
• Ask a selection of pupils to share their film reviews with the rest of the class. Are the reviews effective? Why/why not? Do they encourage other class members to want to watch the films being reviewed? Why/why not? (Again, the class success criteria should be considered).
Examples of film reviews