Syniadau am weithgareddau 'Dinasyddiaeth'
Syniadau am weithgareddau 'Cynhyrchu'
Cyflwyno gwybodaeth am yr actor Taron Egerton
Gall eich dysgwyr gyflwyno y ffeithiau isod (neu chwilio am ffeithiau ei hun) am Taron Egerton mewn ffordd diddorol ar ffurf poster, tudalen gwe neu fideo sy'n cynnwys troslais gan ddefnyddio Adobe Express. Gellid hefyd defnyddio Microsoft Powerpoint, Publisher neu Word i gyflwyno y ffeithiau.
Poster Taron Egerton - O Geredigion i Hollywood
Beth am fynd ati i greu poster sy'n defnyddio testun a delweddau i ddweud stori Taron Egerton o fyw yng Ngheredigion i fod yn enwog yn Hollywood? Yn y fideo isod bydd Kyle T Webster yn esbonio sut mae creu eich poster.
Creu poster ffilm
Beth am greu poster o’u hoff ffilm, naill ai yn arddull hen bosteri’r 1930au neu fel poster modern? Os am greu poster yn ddigidol beth am ddefnyddio yr opsiwn 'Testun i Ddelwedd' yn Adobe Express i greu delweddau pwrpasol ar gyfer eu cynnwys yn y poster.
Y sinema delfrydol
Gall eich dysgwyr adeiladu ei sinema delfrydol yn unigol neu ar y cyd gan ddefnyddio Minecraft Education. Gallwch osod nifer o nodweddion sydd angen iddynt gynnwys e.e. derbynfa mawr, nifer o sgriniau , ei fod yn hygyrch i bawb a.y.b.
Creu animeiddiadau a ffilmiau
Gall eich dysgwyr defnyddio amrywiaeth o offer i greu animeiddiadau a ffilmiau ei hun. Dyma rhai fideos sy'n dangos sut i ddefnyddio yr offer gwahanol:
Cyfansoddi cerddoraieth
Os ydych yn defnyddio iMovie ar gyfer creu eich ffilm , gallwch ddefnyddio Garage Band i gyfansoddi darn newydd o gerddoriaeth gwreiddiol ar gyfer ei gynnwys yn y ffilm. Trwy gyfansoddi cân yn Garage Band byddwch yn osgoi unrhyw broblemau gyda hawlfraint cerddoriaeth yn eich ffilm!
Syniadau am weithgareddau 'Data a Meddwl Cyfrifiadurol'
Codio cwis yn Scratch
Gall eich dysgwyr godio cwis am actor / actores enwog o Gymru gan ddefnyddio Scratch drwy ddilyn y camau yn y cyflwyniad 'Serennu gyda Scratch - sesiwn 4'.
Ymholiad synhwyro golau
Gall eich dysgwyr godio'r Micro:bit i fod yn synhwyrydd golau er mwyn gweld pa ddefnydd sy'n gadael y mwyaf/lleiaf o olau trwyddo.
Chwarae cerddoriaeth ffilm enwog
Gall eich dysgwyr godio'r Micro:bit i chwarae cân o ffilm enwog e.e. cân Mission Impossible a.y.b.
Cracio'r cod
Chwiliwch yn y celloedd o fewn y daenlen sydd wedi ei henwi am lythrennau fydd yn creu geiriau sy'n ymwneud gyda creu ffilm.
Mynd i'r sinema
Defnyddiwch y wybodaeth o wefan y sinema a fformiwlâu Excel i gyfrifo cost nifer penodol o docynnau.
Y 10 ffilm mwyaf poblogaidd erioed!
Gallwch ychwanegu y data isod i daenlen ac yna mynd ati i graffio'r wybodaeth fel graff bar. Yna gellid defnyddio fformiwlâu i ddarganfod beth yw uchafswm , isafswm , cymedr y data. Hefyd gellid defnyddio fformiwla i ddarganfod y cyfannswm arian mewn doleri mae'r 10 ffilm mwyaf poblogaidd erioed.
Cronfa ddata actorion enwog (ateb cwestiynau am gynnwys y gronfa ddata)
Mae'r weithgaredd yma ar gyfer dysgwyr ifancaf cam cynnydd 3 neu dysgwyr sydd heb gael llawer o brofiad o ddefnyddio cronfa ddata o'r blaen.
Cronfa ddata actorion enwog (creu o'r dechrau)
Gallwch ddefnyddio y cardiau gwybodaeth isod i greu cronfa ddata. Yna gall y dysgwyr i drefnu a gwneud chwiliadau am y data.