Gweithgaredd golau - defnyddiau tryloyw, tryleu a didraidd
Rhannu’r disgyblion yn grwpiau bach. Gofyn iddynt drafod a chyflwyno diffiniadau o’r termau tryloyw, tryleu, didraidd. Rhowch set o gardiau ag arnynt luniau o wahanol wrthrychau i bob grŵp (gweler Set 1). A ydynt yn gallu eu dosbarthu i dri grŵp? Grwpiau i adrodd yn ôl i’r dosbarth i egluro sut y maent wedi dosbarthu’r cardiau a pham (gwrthrychau tryloyw, tryleu, didraidd).
Rhowch set o gardiau ag arnynt luniau o wahanol wrthrychau i bob grŵp (gweler Set 2). A ydynt yn gallu eu dosbarthu i dri grŵp? Grwpiau i adrodd yn ôl i’r dosbarth i egluro sut y maent wedi dosbarthu’r cardiau a pham (ffynonellau goleuni naturiol/ annaturiol). Pa wrthrychau nad ydynt yn ffynhonnell goleuni? Pam? Dangoswch y cartŵn cysyniadau (gweler isod) i bob grŵp a rhowch gyfle iddynt drafod – a yw datganiad Huw yn gywir? Sut allwn ni brofi hyn?
Y disgyblion i gynllunio ymholiad i brofi a yw syniad Huw yn gywir ai peidio.
• Dylai’r disgyblion fod yn gyfarwydd â’r broses o gynllunio ymholiad (h.y. cwestiwn, rhagfynegiad, prawf teg, offer, dull, canlyniadau, casgliad a gwerthusiad.)
• Er taw dewis y disgyblion yw pa wrthrych i’w ddefnyddio dylid cadw maint a siâp y gwrthrych mewn cof gan fod angen cyfrifo
ei arwynebedd (byddai llyfr maint A4, er enghraifft, yn ddelfrydol).
• Gall disgyblion ddefnyddio fflachlampau cryf/taflunydd fel ffynhonnell oleuni a mesur y pellter o’r goleuni cyn cyfrifo
arwynebedd y cysgod.
• Dylai’r disgyblion gofnodi eu canlyniadau ar ffurf tabl, ac wedyn llunio graff llinell trefnedig. A yw’r drefn yn cyd-fynd â’r hyn
a ragfynegwyd?
Set 1
Set 2