Gweithgaredd amser dechrau a gorffen ffilmiau
(os yn bosib dylid ei wneud cyn y weithgaredd 'Noswaith yn y Sinema)
Gweithgaredd byr sy'n adolygu ac atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r cloc analog/12 awr/24 awr ac yn paratoi y dysgwyr ar gyfer y weithgaredd 'Noswaith yn y Sinema'
Gweithgaredd 'Noswaith yn y sinema' (wedi ei selio ar fat Mathemateg Cynnal)
Rwyt ti a dy deulu’n mynd allan am noswaith i’r sinema. Rydych chi’n teithio ar y bws o Bow Street i Aberystwyth. Gall pob aelod o’r teulu ddewis pa ffilm i’w gwylio, ond bydd pawb yn teithio gyda’i gilydd. Bydd pob aelod o’r teulu’n prynu rhywbeth yn y siop.
Gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddir ar y mat bwrdd ‘Mynd i Weld Ffilm’ (isod), dangosa sut y byddet yn ymchwilio a chyfrifo:
• Yr opsiwn rataf ar gyfer ymweliad â’r sinema i dy deulu di;
• Yr opsiwn y byddet ti’n ei ddewis gyda chyllideb o £10.00 yr un;
• Yr opsiwn sy’n cynnig y fargen orau.
Cofia ystyried amseroedd a chostau teithio yn ogystal ag amseroedd a chostau’r ffilm/danteithion.