Ystyriaethau allweddol

Dyma gyfres o awgrymiadau y dylech eu hystyried er mwyn sicrhau bod eich arferion dysgu o bell yn ddiogel ac yn effeithiol:


  • Arweinwyr i amlinellu’r ddarpariaeth a’r drefn o ‘ddysgu o bell’ er mwyn sicrhau cysondeb a gwaelodlin ar draws yr ysgol.


  • Arweinwyr i sefydlu dull effeithiol o gyfathrebu gyda staff


  • Yr ysgol i adnabod cyfnod o amser lle bydd athrawon ar gael i ymateb i ymholiadau gan ddysgwyr a rhieni (cefnogaeth addysgol)


  • Yr ysgol i hysbysu dysgwyr a rhieni am gyfnodau cysylltu ag athrawon. Bydd yr amser hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu unrhyw broblemau/pryderon ac i egluro gwaith newydd


  • Darparu canllawiau i rieni a dysgwyr ar sut i ddefnyddio’r llwyfan dysgu

  • Sut ydych chi am gydlynu a rheoli’r swmp gwaith sy’n cael ei gyflwyno i ddysgwyr ei gwblhau?


  • Sut allwch chi sicrhau amrywiaeth a chydbwysedd yn y tasgau sy’n cael eu cyflwyno?


  • Arweinwyr a staff i ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o egwyddorion a phosibiliadau ‘dysgu o bell’. Adnabod ‘arferion da’

  • Dechrau codi ymwybyddiaeth ac arbrofi gyda dulliau newydd o ddysgu o bell gan gynnwys gwahanol wasanaethau ac apiau


  • A yw staff yn gwybod lle a sut i gael cymorth i gefnogi eu dulliau dysgu o bell ac i oresgyn problemau pe baent yn codi?