Cefnogaeth Flipgrid

Mae Flipgrid yn lwyfan gwych i adeiladu cymuned ar lein gyda'ch dysgwyr a hynny drwy ffurf fideo. Gallwch ddefnyddio Flipgrid i gynnal trafodaethau, i gasglu barn dysgwyr neu i gynnal gweithgaredd hwyliog er mwyn codi calon eich dysgwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Cyflwyniad i Flipgrid

Mae 2 ffordd o fewngofnodi i Flipgrid

  1. Mewngofnodi i Hwb yna clicio ar Flipgrid

  2. Mynd i https://info.flipgrid.com/ a clicio ar 'Educator Login', yna dewis 'Microsoft Login' a mewngofnodi drwy ddefnyddio eich manylion Hwb

Defnyddio Flipgrid am y tro cyntaf

Mae'r fideo canlynol yn dangos i chi sut i gyrraedd Flipgrid drwy Hwb ac hefyd sut i greu eich 'grid' cyntaf er mwyn casglu ymatebion gan ddysgwyr.