Gall dysgu o bell fod yr un mor bersonol, gafaelgar a chysylltiedig yn gymdeithasol â dysgu mewn ystafell ddosbarth a gall ddigwydd yn unrhyw le gydag Office 365 trwy Hwb.
Y prif raglen ar Office 365 i reoli llif y gwaith yw Microsoft Teams. Gallwch gwblhau cwrs ar-lein sy'n cymryd 60 munud er mwyn ymgyfarwyddo â'r prif agweddau o fewn Teams. Bydd angen i chi fewngofnodi i'r 'Microsoft Educator Centre' gyda'ch manylion mewnfnodi Hwb er mwyn cael mynediad i'r adnodd.