Cefnogaeth Just2easy
Cefnogaeth Just2easy i athrawon
Mae Just2easy wedi creu gwefan a phecyn sydd yn cynorthwyo athrawon i baratoi ar gyfer dysgu o bell.
Dyma'r dolenni -
https://just2easy.com/pdfs/just2easy-school-closure-pack.pdf
https://just2easy.com/distancelearning/index.html
Isod mae cyfres o ddolenni a dogfennau sydd yn mynd i gynorthwyo hefo dysgu o bell.
Sut i greu dosbarthiadau a grwpiau o fewn Just2easy
Er mwyn galluogi rhannu gwaith yn hawdd gyda disgyblion mae'n hanfodol creu dosbarth neu grwp o fewn Just2easy. Mae'r ddogfen i'r chwith yn dangos yn union sut i wneud hyn.
*Pwysig - Bydd defnyddwyr sy'n mewngofnodi trwy Hwb yn cael eu hychwanegu at eu cyfrif ysgol yn awtomatig ar ôl iddynt fewngofnodi i'r meddalwedd trwy Hwb. Os nad yw disgyblion wedi mewngofnodi eto, ni fydd athrawon yn gallu eu hychwanegu at ddosbarth.
Sut i rannu a gosod gwaith/gwaith cartref i'r disgyblion
j2homework
Cliciwch ar y ddolen yma - https://just2easy.com/media/J2homework.mp4
Meddalwedd sydd ar gael
Mae nifer o wahanol feddalwedd ar gael drwy'r platform Just2easy. Isod mae cyfres o feddalwedd rydym yn ei weld yn boblogaidd.
Mae rhestr llawn o feddalwedd i weld yma - https://just2easy.com/tools/index.html
J2e5
Mae gallu i blant ddefnyddio j2e5 yn union fel tudalen o bapur digidol.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)
J2e Infant Tools (JIT)
Mae J2e Infant Tools (JIT5) yn set o offer addysgol ar-lein sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr iau. Mae ganddo naws lliwgar a chyfeillgar sy'n apelio at dderbynfa a CA1, tra bod offer fel siart yn ddefnyddiol ymhell i CA2.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)
J2code
Mae J2code yn adnodd codio sy'n cynnig pedwar platfform gwahaniaethol.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)
J2data
Gan ddechrau gyda'r dysgwyr ieuengaf yn defnyddio pictogram, yna symud ymlaen trwy siart, cangen a chronfa ddata, mae yna offeryn sy'n briodol ar gyfer pob oedran o 4 oed i fyny.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)
Ttblast
Mae Tt blast yn annog disgyblion i ddysgu mathemateg wrth iddynt wneud yr hyn sy'n dod yn naturiol; chwarae a chystadlu yn erbyn ei gilydd. Wrth iddynt symud ymlaen drwy’r lefelau, mae’r cwestiynau’n addasu’n awtomatig i allu’r disgyblion fel nad ydyn nhw byth yn eu cael yn rhy hawdd neu’n rhy anodd.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)
Spell blast
Mae Spell blast yn annog disgyblion i ddysgu sillafu wrth iddynt wneud yr hyn sy'n dod yn naturiol; chwarae a chystadlu yn erbyn ei gilydd. Wrth iddynt symud ymlaen drwy’r lefelau, mae’r geiriau’n addasu’n awtomatig i allu’r disgyblion fel nad ydyn nhw byth yn eu cael yn rhy hawdd neu’n rhy anodd.
(Gwyliwch allan am y fideo ar ochr y dudalen)